Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y mae yn sun genyf glywed am Gloddfa y Coed, eu bod am ei sychu eto. Y mae rhwin a meddwl da yn fuw eto yna. Y mae tipin o waith ei sychu, y ddwy, y Coed ar Clai, fel ei gilydd. Ond nid cymaint a rhoi y teligraff tan y mor chwaith. Ond y maent hwy wedi bod yn ddiwedd i lawar, fel pob un arall or hen chwareli yna, wedi bod yn ddiwedd i lawar o ddynion da ynghanol ei dyddiau. Bydd yn dda genyf weithiau fy mod wedi dianc oi gafal i riwle pell fel hyn i gael fy nhamaid, am teulu, a digon o hono hefyd heb neb yn ei wahardd, na gwasgu arnaf. Y mae Ann ai gwr yn byw 3 rhwd oddiwrth ein ty ni. Yr ydani yn cael digon o bob peth fellu i fuw yn lled dda, a gobeithio eich bod chwithau hefud fellu. Wel anwyl frawd gweddiwn am gymorth i fyw in Tad nefol wrth eu mwynhau, a gofalwn am beidio a rhoi ein serch yn ormod ar bethau a welir." Yn y llythyr sydd wedi ei ddyddio Mehefin 18, 1859, dywed iddo dderbyn gair gan Richard, Chwefror 26. Meddai William wrth anfon at ei frawd mewn atebiad i'w lythyr, Yr oeddych yn son am i mi anfon llythyr tia glan geuaf. Yr oeddwn inau yn gwelad hynu yn rhu hir. Treiwn anfon bob hanar blwyddyn beth bynag. Ni fferu y gwaith ddim yn hir. Yr wyf wedi bod yn crwydro y leni yn y Gymanfa am wythnos gyfa yn Colymbys. tia thrigain milldir oddi yma, lle mae llawer iawn o'r sir yna; llawer iawn or Waunfawr, Llanberis, rhai o Glynog. Yr oedd yno Gymanfa nobl. Mater y Seiat oedd-yr Ysbryd Glân, ar angenrheidrwydd am dano. Yr oedd yno lawar iawn o bregethwyr a blaenoriaid hefyd. Yr oedd yno siarad da ar y mater. Yr oedd yno bregethwr diarth nobl iawn o Sidinatin [Y Parch. Howell Powell, Cincinati, Ohio, ydoedd]. Yr oedd yma ddoe am 2 or gloch. Y mae yn Dodgeville heno, ar Saboth hefyd, fo ai gyfaill, ac y mae yr holl ardal yma bron wedi mynd yno ar ei ol, tia 18 milldir o ffordd. Yno yr aeth y 2 deulu yma, a minau gartref yn gwarchod. Yr wyf yn cael cvfla i siarad a chwi heddiw anwyl frawd. Byddaf yn teimlo yn dda pan yn siarad a chwi fel hyn. Nis cawn yr un ffordd arall byth. Yr wyf fi yma yr hyna gyda chrefydd o neb, ag yn un o'r rhai hyna mewn dyddiau hefyd. Yr oedd y Cyfarfod Misol yma tia pythefnos yn ol, ac oddi-