Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Carn Ingli a Thirlwall. CARN Ingli â Thirlwall ac nid Thirlwall â Charn Ingli ydyw'r pennawd cywiraf i'r ysgrif hon. Enw ar fynydd gweddol ddi- nod yn Swydd Benfro oedd Carn Ingli cyn iddo gael ei gyplysu ag enw gwr o'r enw Joseph Hughes â dod yn aelod o aelwyd yr Eisteddfod a'r Orsedd. Ysgolor enwog yn Lloeglr oedd Thirlwall cyn ei benodi yn Esgob Tyddewi. Ar ôl y briodas daeth Carn Ingli a Joseph Hughes yn dra adnabyddus yng Nghymru, ac ar ôl ei benodiad daeth Thirlwall yn bwysig ac adnabyddus yng Nghymru. Carai Carn Ingli ei genedl a'i chrefydd yn angerddol, a charai Thirlwall ei swydd â'r anrhyd- edd pan benodwyd ef yn Esgob Tyddewi gan Arglwydd Melbourne yn 1840. Sylw Melbourne ar yr apwyntiad oedd, "I feel myself bound to recommend for promotion clergymen whose general views upon political matters coincide with my own (gw. Connop Thirhuail, Hanesydd a Diwinydd, gan John Connop Thirlwall). Gwelir felly na chafodd agwedd ysbrydol yr Eglwys yng Nghymru ystyriaeth o gwbl pan wnaed ý penodiad. Ar y pryd yr oedd Thirlwall ar y ffordd i ddod yn un o'r ysgolorion disgleiriaf ym myd y clasuron. Ar bwys ei lyfr Hanes Groeg, a gweithiau eraill, bu am gyfnod yn cyd-redeg ar hyd y llwybr i enwogrwydd â Havelock, George Grote, Julius Charles Hare, George Waddington, Syr Charles Eastlake, Syr Charles G. Young ac eraill. Anfoddog iawn oedd Eglwyswyr byw a blaen- llaw ar y penodiad ond Melbourne a gariodd ý maen i'r wal. Oherwydd cyflwr anffodus yr eglwysi, cryfhau yr oedd y gri yn erbyn yr Esgobion Seisnig di-fater, a hollol ddi-gydymdeim- lad â dvheadau dyfnaf y genedl. Siomi'r bobl a wnaeth Dr. Oliffant yn Llandaf er ei addewidion teg, a siomi'r wlad a fu hanes Dr Thirlwall. Cryfhau a wnaeth ofnau offeiriaid eiddgar Swydd Efrog, gwaedai eu calon fwy-fwy tros yr Eglwys oedd yn annwyl yn eu golwg fel y deuai'r ffeithiau yn lluosocach. Rhaid cadw mewn golwg nad Cymry di-feddwl, gwan eu calon,