Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gildas ydyw'r brif ffynhonnell lenyddol sydd gan haneswyr y cyfnod hwn. Y traethawd ar Goll Prydain \de excidio Britanniae) yw'r cnewyllyn. Y mac'r traethawd hwn yn wirioneddol bwysig am nad oes gronicl annibynnol arall i bwyso arno. I lygaid beirniadol haneswyr yr oes hon y mae iddo ddiffygion amlwg, ond y duedd gyffredin yw ei dderbyn am nad yw'n gwbl amhosibl ei gysoni â darganfyddiadau archaeoleg a gwyddor enwau lleoedd. I'r Parchedig A. W. Wade-Evans fíynhonnell lwgr yw sydd wedi llwydo holl fíiydiau hanes y Cymry a'r Saeson fel ei gilydd. Y mae ei esboniad ef arni a'r dyddiad diweddar a rydd iddi yn haeddu ystyriaeth fanwl. Rhaid ystyried y broblem yng ngoleuni'r holl dystiolaeth archaeolegol, tystiolaeth cnwau lleoedd, safonau croniclwyr, a gweddillion gwaith y beirdd Cymraeg, hysbys ac anhysbys, o'r chweched ganrií hyd y ddegfed. Y mae dargan- fyddiadau archaeolegol y blynyddoedd diwethaf hyn yn rhybudd rhag cau pen y mwdwl yn rhy fuan, ac nid yw'r dystiolaeth Gymraeg wedi ei hwyr chwilio eto. Yn wir gellir dweud mai Syr Ifor William, yw'r cyntaf i ymosod o ddifri ar y Cynfeirdd, ac nid ydym wedi cael ei air terfynol ef eto ar weddillion y farddoniaeth gynnar. Hwyrach y bydd yn rhaid i fwy nag un dehongliad traddodiadol parchus gael ei fwrw heibio pan gesglir pob tystiolaeth at ei gilydd. Beth bynnag, ni ellir anwybyddu astudiaethau'r Parchedig A. W. Wade-Evans. Gwnaeth yr Athro T. Jones Pierce hanes y Gymdeithas Gymreig yn Oes y Tywysogion yn faes arbennig iddo'i hun, ac y mae'n dda cael rhan o ffrwyth ei ymchwil i natur sefydliadau cymdeithasol Cymru'r drydedd-ganrif- ar-ddeg, yn arbennig o safbwynt datbìyjgiad tywysogaeth Gwynedd a chynlluniau teulu Aberffraw. Nodwedd werthfawr cyfraniad Dr. Ceinwen Thomas ar hanes Cymru rbwng cwymp Llywelyn ac oes y Tuduriaid yw'r defnydd a wna o waith y beirdd sydd hyd yn hyn yn aros mewn llawysgrifau. Cofiaf fel y byddai un o'm hathrawon hanes yn Aberystwyth, Cecil Jane, yn arfer egluro ua fedrai ef fynegi barn o gwbl ar hanes Cymru am na fedrai ddarllen Cymraeg, a bod gwybodaeth lwyr o iaith a llenyddiaeth gwlad yn gwbl angenrheidiol i'r neb a fynnai ddarlithio i bwrpas ar ei hanes.. Un o'r datblygiadau mwyaf gobeithiol mewn gwybodaeth hanesyddol yng Nghymru yn y blyn. ydoedd hyn yw'r diddordeb cynyddol a gymerir yn y dystiolaeth lenyddol. Gwelir yr un elfen mewn disgleirdeb hefyd yn narlith gampus A. O. H. Jarman ar Gymru fel rhan o Ioegr, 1485—1800, cyfnod trai yr ymdeimlad cenedlaethol. Olrhain hanes mudiadau Cymraeg a chenedlaethol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a wna D. Gwenallt Jones, gan ganolbwyntio yn hanner gyntaf y ganrif ar ddiddymu'r Sesiwn Fawr, a olygai ddileu sefydliad cenedlaethol Cymreig, ac ar Frad y Llyfrau Gleision, ymosodiad ffiaidd ar yr iaith Gymraeg. Am y deng mlynedd ar hugain nesaf dewisodd Gwenallt ganol- bwyntio ar yr ymfudo i Batagonia a phwysleisio lle Michael D. Jones a'i ddelfryd o wladwriaeth Gymraeg iach: ac ar ddiwedd y ganrif try ei lygaid ar Fudiad Cymru Fydd a'i fethiant trychinebus.