Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y mae amlinelliad cryno Gwynfor Evans o ddatblygiadau gwleidyddol Cymru'r ugeinfed ganrif a thwf Plaid Cymru yn ddiweddglo teilwng i gyfrol ddiddorol a gwerthfawr. E. D. JONES. Aberystwyth. CHRIST AND TIME: Oscar Cullmann. Gwasg S.C.M. Pris 18 swllt. Dyma lyfr eto ar berthynas Cristionogaeth â Hanes, fel y dengys yr is. deitl, The Primitive Christian Conception of Time and History." Athro yn Efrydiau y Testament Newydd ym Mhrifysgol Basel, a Chyfarwyddwr Astudiaethau yn y Sorbonne. ydyw'r Dr. Cullmann, a dyma'r gwaith mawr cyntaf o'i eiddo i gaél ei gyhoeddi yn Saesneg. Cyfieithiwyd y llyfr o'r Almaeneg gan yr Athro Floyd V. Wilson o Chicago a .rydd dystiolaeth i'r galw mawr sydd am y llyfr ledled Ewrop. Ceir rhagair a rhagymadrodd gah yr awdur cyn dechrau ar ei ymdrin- iaeth. Eglurhad personol yw'r naill er cyfiawnhau ysgrifennu'r llyfr. Ceisio penderfynu. beth yw cnewyUyn y neges Gristionogol, beth sydd gan yr Efengyl nad yw gan unrhyw gyfundrefn arall, boed athronyddol neu gref- yddol—dyna ei amcan. Deil fod hynny'n amhosibl os derbynnir unrhyw safon allanol, h.y., y tu allan i'r Testament Newydd ei hun. A chaniatau hynny, cyfyd anhawster i'r sawl nad yw'n ddiwinydd proffesedig o fod cymaint o anghytuno ymysg ysgolheigion Beiblaidd ar natur y cnewyllyn. Nid oes angen enwi ond tri y cÿfeirir atynt gan Cullmann—Schweitzer, R. Bultmann a Barth, i sylweddoli fod yr awdur yn gofyn cryn lawer oddi arnom drwy ddisgwyl inni gytuno fod pwyslais y tri a enwyd—a llawer eraill—yn werthfawr ond mai ei ddehongliad ef o gynnwys y T.N. yn unig sydd yn iawn! Tybed ? Amcan y rhagymadrodd, ar y llaw arall, yw cyflwyno'r broblem a'n wyneba. Rhannwyd amser behach drwy'r byd yn gyffredinol yn ddau— Cyn Crist, ac 01 Crist. Mewn ystyr lythrennpl felly y mae Crist wedi rhannu nid yn unig hanes yi Eglwys ond hanes y byd hefyd. Y mae dau gwestiwn yn gofyn am ateb суn mentro i faes arbennig y.T.N. i. Beth yw perthynas Hanes Beiblaidd â: Hanes Cyffredinol? 2. Beth yw perthynas Hanes Beiblaidd â Diwinyddiaeth ? Credaf mai craidd yr hyn a ddywed Cullmann yw mai yn nhermau Datguddiad arbennig y gellir yn unig rcddi'r lle dyladwy i hanes fel y mae yn y Beibl o'i gyferbynnu â hanes fel y mae yn y byd. Ni thybiaf y gellir ei gyhuddo o osgoi'r broblem; a lwyddodd i'w datrys sydd beth arall. Rhennir y llyfr i bedair rhan a dyma eu teitlau 1 Y Llinell Waredigol Barhaol. 2. Nodwedd Arbennig y Cyfnodau Gwar- edigol. 3. Hanes Gwaredigol a Chwrs y Byd. 4. Hanes Gwaredigol a'r Person UnigoL Ni ddechrau ffydd a meddwl yr Eglwys Fore gyda'r cyferbyniad mewn gofod rhwng 'yma' a'r 'ochf draw,' ond gyda'r g wahaniaeth mewn amser