Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cenedlaetholdeb a Chrefydd. Pwnc mawr amlochrog yw hwn a thraethwyd llawer arno gan amryw. Ar Genedlaetholdeb ceir astudiaethau newydd o hyd o weithiau'r arloeswyr cynnar a diweddar, megis Dante, Herder, Mazzini, Comte, Barrés a Maurras. Amleiriog braidd yw'r Almaenwr Rudolf Rocker, yn ei Nationalism and Culture Cynilach a threiddgarach yw The Historical Evolution of Moderu NationaPism (1937), gan Carlton Hayes, ac i'r traethawd clir hwn yr wyf yn fwyaf dyledus am safbwynt yr ysgrif hon. Y mae gweithiau Mr. Saunders Lewis yn bwysig, megis ei Sylfeini C enedlaetholdeb. Darllenadwy o hyd yw penodau dirodres Miall Edwards, yn ei Grefydd a Bywyd, ond ni cheir ynddynt ond bras- lun o'r maes. Ni ellir anwybyddu cyfraniad mawr Emrys ap Iwan, ond ni chafwyd eto feirniadaeth hanesyddol fanwl o'i rag- dybiau a'i ddamcaniaethau. Ar Grefydd, hyd y gwyddom, ni oleuwyd rhyw lawer iawn ar bethau, er bod cryn waith wedi ei wneud ar gynseiliau meddylegol a chymdeithasol y wedd hon ar y testun. Gyda chryn betruster, gan hynny, y mentraf gyffwrdd â'r broblem astrus hon gan fabwysiadu yn fras fethod tebyg i eiddo Hayes, sef cyfuniad o Hanes a Dehongliad. I Nid yw'n gwbl eglur i ddechrau ai problem newydd hollol yw problem Cenedlaetholdeb ei hun. Nid yw Hayes yn mynd yn ôl ymhellach na Hiwmanitariaeth Resymolaidd yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed. Dichon y tybia ef fod i bob oes ei chategorîau meddyliol cyfoes ei hun, ac mai peth gwirioneddol ddiweddar yw hon. Pe felly, sut y mae'r hanesydd i ddeall twf a datblygiad unrhyw hen genedl? Meddai'r Groegwr ei ddinas a'i wleidyddiaeth a'r Rhufeiniwr ei weriniaeth a'i ymerodraeth. A oedd yn y naill neu'r Hall" Ymwybod Cenedl ? A beth am Israel? Gellid ystyried ei hanes hi mewn tair ffordd (1) Yn gwbl seciwlar-tuedd Iddewiaeth Ddiweddar: (2) neu fel cyf-