Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD "Crist a Diwylliant Os cymerwn Grist o ddifrif, bydd rhaid i ni yn hwyr neu yn hwyrach wynebu anhawster. Tra bòm yn byw bywyd normal, bydd gennym ein rhan i'w chwarae yng nghymdeithas y byd. Byddwn yn arfer ei hiaith, yn mwynhau ei chynhyrchion llenydd- ol ac artistig, yn defnyddio ei dyfeisiau a'i thechnegau gwyddon- ol, yn dilyn ei defion a'i harferion, yn ennill ein tamaid drwy gyfrannu i'w gweithgarwch economaidd, ac yn byw yn wastad yn niogelwch ei threfn warcheidiol a llywodraethol. Ac yn wyneb y breiniau hyn, bydd gennym gyfrifoldeb iddi-cyfrifoldeb i gadw ei rheolau a'i hordeiniadau, bid sicr, eithr hefyd gynnal ei threfn, j amddiffyn ei delfrydau ac i hyrwyddo cynnydd a chadwraeth ei gwerthoedd. Ac yma y cyfyd ein hanhawster os derbyniasom Grist, sef anhawster cymodi'r hawliau daearol hyn a'i hawl Ef ar ein teyrngarwch. Canys sut bynnag y deallwn Grist: y mae yn ein hawlio yn ddiamod. Ni chaniatâ i ni wasan- aechu dau Arglwydd. Fel y dywedodd Pantycelyn Tydi fynni'r cnawd a'r esgyrn a'r galon yn gytûn, Rhaid i Ti gael y cyfan, neu ynteu ddim, o'r dyn." Y gwrthdaro hwn, rhwng gofyn Crist a gofynion y bywyd seciwlar, yw pwnc y llyfr sydd gennym dan sylw. Eithr gwedd arbennig ar y broblem hon sydd gan Niebuhr. Oblegid y mae'n synio am y bywyd seciwlar yn ddnwylliannol ac yn gwrthgyfer- bynnu Crist a diwylliant. Nid yw'n hawdd rhoi syniad Niebuhr am ddiwylliant mewn cwmpas byr. Cylchynir dyn gan natur ar un lefel-lefel bywyd ei gorff, ei reidiau a'i reddfau. Ond fe'i cylchynir hefyd gan y byd a greodd ef ei hun, byd iairh, syniadau, daliadau, defion, cynhyrchion dawr. a dyfais, sefydliadau a mudiadau, trefniadaeth o bob math — addysgol, galwedigaethol, gweinyddol, gwladol. Ac i Niebuhr, yr enw ar vr 'holl amgylchfyd dynol hwn yw diwylliant." Ei nodweddion yw ei fod (i) yn gymdeithasol; (2) yn dymhorol, h.y., yng nghlwm wrth amser; (3) yn fagwrfa gwerthoedd amryw a chymysg, ac yn olaf, yn orchestwaith dyn « Sgwrs a ddarlledwyd ar lyfr Richard iNieDunr, ìacnweaa 3oain, 1952. CYF CVIII. RHIF 466. Ionawr, 1953.