Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Kierkegaard Bu farw Kierkegaard yn 1855. Ar ddiwedd y ganrif, y tu allan i wledydd Sgandinafia, ychydig a wyddai amdano. Yr oedd, y mac'n wir, rai detholion o'i waith wedi eu cyfieithu i'r Almaeneg yn 1896, er enghraifft, ymddangosodd cyfrol drwchus yn dwyn y teitl ymosodiad ar Gristionogaeth cyfrol a gynhwysai holl ddogfennau brwydr Kierkegaard yn erbyn yr Eglwys. Eithr cyffroadau eraill a dynodd sylw cylchoedd ehangach tuag ato; yn 1904 cyhoeddüdd yr Insel-Verlag y rhannau hynny o'i lythyrau a'i nodiadau a oedd yn ymwneud a'i berthynas â'i ddyweddi. Yn 1903 cafwyd Dyddlyfr yr Hudwr ac yn yr un flwyddyn Lyfr y Barnur, detholiad o ddyddlyfrau Kierkegaard sydd wedi cadw ei werth hyd heddiw ac sydd yn rhoi dariun rhyfedd o'i bersonol- iaeth. Yn 1909, dan ofal Gottfried a Schrempf, fe ddechreuwyd cyhoeddi'r argraffiad mawr, deuddeng cyfrol o'i waith a thrwy hwn y deutbpwyd i'w adnabod yn llwyr. Am y tro cyntaf yr oedd Kierkegaard yn ffigur o'r radd flaenaf ym mywyd ysbrydol yr Almaen. Yr oedd megis yn ddarganfyddiad. Ond cyn 1914 prin iawn y clywid amdano yn adrannau athron- iaeth y Prifysgolion Nid oedd gair amdano mewn unrhyw hanes athroniaeth. Yn union o flaen y Rhyfel Byd Cyntaf y daeth ef i fod yn ddigwyddiad ym mywyd gwyr ifainc a ddaeth yn ddiweddarach yn ddiwinyddion ac athronwyr. Heddiw y mae cyfieithiadau o'i weithiau i'w cael mewn Ffrangeg a Saesneg. Y mae ei ddylanwad ar led drwy'r holl Orllewin ac yn Siapan. Ar Kierkegaard y mae'r ddiwinyddiaeth ddialectig a holl ffurfiau Athroniaeth Bodolaeth (Fxistenzphilosophie), fel y'i gelwir, wedi Hi seilio. Y mae tarddle syniadau sylfaenol y rhain yn eglur. Ymhliih efrydwyr ein dydd y mae'r diddordeb ynddo ef gymaint ag ydyw yn Nietzsche. Y mae'r darlithiau a'r dos- barthiadau py'n ymdrin a'r naill a'r llall fel rheol yn orlawn. Ond nid oes ateb uniongyrchol i'r cwestiwn Beth yn hollol yw Kierkegaard, beth yw ei bwysigrwydd hanesyddol, a pha fodd y gall ef ddylanwadu hcddiw ? Athronydd Cristionogol yw