Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Anthropos "ANTHROPOS yw bos y byd." dyna sut y cyfarchodd Cadfan Anthropos pan oedd Anthropos yn beirniadu mewn cyfarfod llenyddol lleol. Ac yn syth bin, yn ól arfer parod beirdd ffraeth y cyfnod, atebodd Anthropos ar ei ffordd i'r llwyfan: Os Anthropos yw bos y byd, Cadfan yw bos y cydfyd. Ac os nad oedd y cyfarchiadau yn holloi gywir yn eu cyfan- rwydd am y naill na'r 11all, yr oedd, serch hynny, mwy o wir na fwriadai Cadfan ar y pryd o berthynas i Anthropos. Fe wyddai, hyd yn oed yn y dyddiau cynnar hynnv fod yna, wedi'r cwbl, rywfaint o'r bos yn Anthropos—bos distaw ond yn fedd- iannol o'r gynneddf awdurdodol-yr awdurdod hwnnw a ddaw yn am! drwy lygad dyn fel Anthropos, neu ebychiad arwyddocaol a ddvnoda fod llawer yn mynd trwy ei feddwl. Yn wir, nid oes angen ond tuchan yn bregethwrol, h'm! h'm! i ddychryn neu i greu argraff ar y gwrandawr. Hyn a wyddom iddo fod yn ddigon meistrolgar i gadw Clwb cyfan ar ei draed am flynyddoedd. Fe dyfodd Clwb Awen a Chan," Caernarfon, i fod vr hyn ydoedd oherwydd cryfder un dyn hynaws a chlyfar dros ben yn ei ffordd ef o drin a phrisio dynion. Bu Anthropos yn seicolegydd ym mhell cyn iddynt ddyfeisio'r ^air: fe wyddai i'r dim pa bryd i wrthod a pha bryd i gyd-wetd Yr oeddynt yn hir eu pennau, y tri gwŷr rheiny a feddyliodd gyntaf am y fath Glwb, a buont yn ffodus fod gan- ddynt ddyn mor gymwys, os yn od, yn byw yn eu plith. Yr oedd yno yn y dref lawer o ddynion od a llengar, ac hwyrach yn od am eu bod yn llengar, ond dim ond un dyn fel Anthropos oedd ar gael at eu pwrpas hwy. Gwr o bregethwr yn yr Eglwys Fethodistaidd Calfinaidd leiaf yn y dref, sef Beulah, a chanddo rhywbeth mwy na natur ystyfnig gwyliadwrus Nid hawdd oedd perswadio dyn fel Anthropos: gwyddai'r tri hyn, oherwydd eu hir gyfathrach ag ef, y ^yddai'n rhaid ei oglais fel pysgodyn cyndyn cyn y cydiai yn y bach ac hyd yn oed ar ôl gwneud hvnny nid oeddynt yn siwr yr arhosai yn llonydd yng ngwaelod