Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y cwch. Fe wyddent, pe gallent gael Anthropos yn llywydd y byddent hanner ffordd a mwy tuag at gyflawni eu hamcanion peth hawdd, gan gymamt rhif y ilenorion a'r beirdd a'r cantor ion yn yr ardal, fyddai casglu cnewyllyn fel dechreuad i'r Clwb. Beth bynnag am gychwvniad clvbiau llenyddol byd-enwog,, megis clwb y Dr. Johnson a'i gyfoedion, ni fu mwy o ramant yn perthyn i bwyllgor darpariadol nag a fu i bwyllgor cychwyn nol Clwb Awen a Chân. Yr oedd yn rhaid, wrth gwrs, er mwyn cydymffurfio ag odrwydd y <ynllun a gogwyddiadau llawer o'r gwyr a ddeuai'n aelodau, gynnal cyfarfodydd cyntaf y Clwb ar wal cei y dref wedi noswylio yn ystod haf 1908. Dychmyger gweled dyrnaid o ddynion goleuedig, a brwdfrydedd llenorol yn eu gwaed, yn un rhes ar y clawdd rhyw bedwar neu bump yn eistedd ar y wal gan wynebu eraill ar ei traed ar rodfa'r cei. Menai dlos yn hollol lonydd a digyffro rhyngddynt a Môn. a haul godidog yn machlud dros Fae Caernarfon. Ond peidied neb a meddwl mai dynion a'u pennau yn y gwynt oeddynt: y mae'n wir iddynt oll rywbryd neu gilydd ganu mewn englyn a soned am y Fenai a phopeth arall a fyddai'n rhaid ei glodfori mewn cynghanedd, ond yr oeddynt hefyd yn ddynion yn cadw'n agos iawn at y ddaear yn eu siopau neu yn eu swyddfeydd ac wrth eu meinciau gwaith. Yr oeddynt hefyd yn ddynion hollol ddi-lol eu harferion-dyna paham y penderfynwyd nad oedd angen cadw cofnodion o'r cyfarfodydd—у rhai cyntaf beth bvnnag. Yr oedd y Clwb hefyd, meddent, i fod yn gyfyngedig ddynion. Fe drefnodd y Pwyllgor hefvd y cawsai'r aelodau swper syml cyn y cyfarfod rheolaidd ac y cawsent smocio trwy gydol y nos; oherwydd y nifer o hen gapteimaid Uongau ym mysg yr aelodau, yr oedd y rhyddid smocic, siag cry fei rheol, yn un o'r amodau mwyaf derbyniol y pwyllgor. A chan wybod am dueddiadau an sefydlog Anthropos. cydsyniwyd i gyfarfod, nid vn fisol neu bob chwarter, ond yn mion fel y byddai'r hwyl ar y llywvdd, a dyn a helpo bob ysgrifennvdd a chanddo lywydd fel Anthropos. Yr oedd yn rhaid i'r vsgrifennydd ei hun fod yn un o'r dynion doethaf, hir-ymarhous, a rhvstal seicolegydd ag Anthropos ei hun, os oedd am gadw y ddesgl yn wastad o un cyfarfod i'r Uaîl. Ai ato ar flaenau ei draed megis, i ofyn am ei gydsyniad i