Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llyfr y Datguddiad* ADEG y rhyfel byd cyntaf, fel llawer o weinidogion ifainc, fe'm cyfareddwyd gan y llyfr rhyfedd hwn, a chafwyd cymorth nid bychan i geisio deall ei genadwri yng ngweithiau y Canon R. H. Charles a'r Athro F. C. Butkitt, a hawdd oedd gweled bod esbonwyr wedi gwneuthur defnydd helaeth o'r gweithiau hyn. A rhyfedd sôn ychvdíg o amser yn ôl a mi'n ymgyngbori â'r Gwyddioniadur diweddaraf a gyhoeddwyd yn y wlad hon-llyfr a olygwyd gan y Dr. Vergilius Ferm, gwelais yr ystyrir y Dr. Charles o hyd yn ben awdurdod ar Lenyddiaeth Apocalyptaidd. Y mae'n syn meddwl na chafwyd y wir allwedd i'r ysgrifeniad- au hyn cyn y ganrif hon; ystyriai ein teidiau'r llyfr yn fath ar "Almanac y Miloedd rhyw argrafflun o'r pethau i ddyfod." O'r braidd y mae angen dywedyd bod y Datguddmd yn llyfr hynod anarferol, canys nid yw nac Efengyl nac Epistol na Llyfr Hanes, er ý ceir elfennau o bob un o'r tn hyn ynddo. Cyn belled ag a wnelo â'r Beibl, deil berthynas â llyfr Daniel ond bod gwahaniaethau trawiadol rhyngddynt. Llyfr Datguddiad am Grist ydyw hwn Llyfr Cristionogol ydyw felly. Crist ydyw ei sylfaen a'i ganolbwynt. Ef yw'r rheswm amdano ac hebddo Ef ni buasai na Llyfr y Datguddiad na Thestament Newydd ychwaith, wrth gwrs. Y mae'r Hyfr yn glo ac yn ben cymwys i'r Ysgrythur Lân. Pa lyfr arall y gellid ei roddi'n olaf ? Pa lyfr arall a dery nodyn gobaith ac optimistiaeth Cristionogol a buddugoliaethus gyda'r fath glirder a sicrwydd ? Ac onid yn y llyfr hwn y cafodd rhai o eneidiau mawr y byd eu hysbrydiaeth ? George Frederic Handel a'i Worthy a'i Hallelujah Chorus," a Johannes Brahms a'i Requiem anfarwol. Saif y llvfr mewn gwrthgyferbyniad ysblennydd i lyfr cyntaf y Beibl. Mewn ffordd ddramatig yn llyfr Genesis ceir darlun prudd o fethiant difrifol: y mae dyn wedi ei fwrw allan o'r ardd Darlun ydyw o ddechreuad trychinebus a siomedig. Sylwedd o anerdhiad a baratowyd yn Saesneg ar gyfer Cyfarfod 9 Weinidegien yn New York