Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn llyfr y Datguddiad, ceir y darlun mwyaf byw ac argraffol o fuddugoliaeth. darlun mawrwych a gogoneddus. terfyn tyfiant cosmig a dynol. Tra y portreada Genesis yn null chwedl bryd- ferth (sy'n un o ffyrdd Duw i ddysgu dyn) darddiad y byd a chychwyniad pechod ar y ddaear, yn y Datguddiad rhoddir inni ddarlun o'r diwedd a'r oruchafiaeth sicr ar bechod yn y pen draw ac adferiad ilywodraeth lwyr a hollol i'r Anfeidrol Dduw, Creawdydd pob peth. Y mae'r Oen yng nghanol yr orseddfainc wedi ei ladd-ydyw, eithr enillodd fuddugoliaeth ar holl nerthoedd drygioni gan adfer dyn i'w wir wynfyd ym mharadwys Duw. Yn y llyfr hwn y mae angelyddiaeth a chythreulyddiaeth yn bresennol mewn ffordd fywiog i'w rhyfeddu! Y mae galluoedd y tywyllwch wedi eu dramaeíddio mewn ffurfiau simbolaidd. Draig -eithben a deg corn ganddo yw Satan, a gwelir ef yn ei amiygu ei hun ym mywyd gormeswyr ac yn rheoli ymerodraethau demonaidd ar y ddaear. Mewn gwirionedd. a bydd yn rhaid dod yn ôl at hyn eto, delia'r Jlyfr â'r hen frwydr rhwng y drwg a'r da. Awgrymwyd cyn hyn fod y math hwn ar feddwl, hynny yw. yr ymdrech rhwng galluoedd goleuni a thywyllwch wedi tarddu o ddeuoliaeth Bersiaidd,-yr hen frwydr (y deuddeg mil blyn- yddoedd) rhwng Ahriman a'i luoedd demonaidd ac Ormuzd a'i angylion. Ni bu'r ysgrifeniadau hyn erioed yn boblogaidd ym mhlith meddylwyr Iddewaidd uniongred; yn wir, ymddengys bod yr ysgrifenwyr Rabinaidd at ei gilydd wedi eu hanwybyddu'n hollol. Ond yr oedd pethau'n dra gwahanol gyda Christionog- ion: o'r cychwyn gwelodd y disgyblion cyntaf yn Iesu Grist y Mab y dyn goruwchnaturiol y sonnir amdano yn llyfr Daniel (sydd ag elfennau Persiaidd ynddo) v disgwylir iddo ddychwelyd yn fuan ar gymylau'r nef! Tua diwedd Efengyl Ioan dywed yr ysgrifennydd beth yw ei bwrpas wrth ysgrifennu ei Efengyl, H Eithr y pethau hyna ysgrifennwyd, fel y credoch chwi mai yr Iesu yw Crist, Mab Duw; a chan gredu, y caffoch fywyd yn ei enw cf." (Ioan xx, 31.) Y mae gan awdur yr Apocalyps hwn vntau bwrpas Uawn mov bendant, sef yw hwnnw ysbrydoli a chalonogi Cristionog-: