Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ion yn wyneb erlid creulon. ac ennyn ffydd a gobaith a chariad yn eu calonnau. Nid yw ryfedd yn y byd i'r llyfr gael ei alw yn Draethodyn ar gyfer amserau enbyd." Tua diwedd teyrnasiad Domitian (8I—96 A.D.) cyhoeddwyd y ffaith fod addcliad o'r Ymerawdwr i fod vn arwydd o deyrngar- wch i'r Ymerodraeth a dyna fygwth yr Eglwys Gristionogol ifanc â dinistr ar unwaith; diamau y temtid amryw o aelodau ifainc yr Eglwys i gvmrodeddu; rhybudd yw'r llyfr hwn yn erbyn cymryd y cam. Yr oedd yr awdurdodau ymerodrol yn trefnu i ddyrchafu'r Ymerawdwr i orsedd Duw, ac o ganlyniad, gwnaethpwyd plygu glin iddo ef yn amod diogelwch a sicrwydd i'r sawl a ddymunai drigo yn yr ymerodraeth; yr oedd hefyd yn bra^ f o wladgarwch a chrefydd. Y mae'n amlwg ar unwaith fod y fath foesgrymu yn amod amhosibl 1 Gristionogion diffuant a gonest. Iddynt hwy y pryd hynny yr oedd y dewis rhwng Crist a Chesar, megis v mae'n dewis ni heddiw rhwng Crist a Mawrth! Gwêl yr ysgrifennydd hwn tod gallu yr ymerodraeth Rufein- ig yn allu a fygythiai'n bendant fywyd yr Eglwys Gristionogol. Pirthed y simbolau a ddefnyddiai, defnyddiwyd hwy o'r blaen ynglŷn â'r erlid a fu ar vr Iddewon yn adeg y Macabeaid pan feddylid am fuddugoliaeth ac uwchafiaeth y genedl Iddewig. Ond yn awr, y mae gan y simbolau arwyddocâd ehangach o lawer, sef Buddugoliaeth derfynol Teyrnas Crist. Byddai'r sirrbolau'n glir i'r sawl a oeid yn gyfarwydd â llenyddiaeth apocalyptaidd, heb gyfleu odid dim i'r awdurdodau gelynol a alîe.it gael gafael ar yr ysgrifeniadau. Blodeuai'r llenyddiaeth hon gan mwyaf rhwng 165 C.C. a 120 A.D. Mewn gwirionedd, dilynwyr y proffwydi oedd yr apocalyptwyr; daethant i'r maes pan nad oedd llais prc>ffwydol c^yí yn y tir, eithr gwahaniaethant oddi wrth ei gilydd mewn rhagor nag un peth. Er enghraifft, pregethwyr oedd y proffwydi yn gyntaf ac yn bennaf: iamwain, mwy neu lai, sy'n cyfrif fod rhai c'u pregethau ar gael Ar y llaw arall, nid llefarwyr ond ysgrifenwyr oedd yr apocalyptwyr. Ymhellach, ymdaflai'r proffwydi gyda holl angerdd eu calon a'u henaid i ganol terfysg y bywyd cymdeithasol a gwleidvddo1 cyffrous gan gyhoeddi gair pendant terfynol Duw ar gyfer sefvllfa arbennig. tra ymgudd-