Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Siencyn Pen-hydd Nid dyma'r tro cyntaf i enw biencyn Pen-hydd ymddangos ar dudalennau'r Traethodydd- yn wir, gellir dweud mai ar dudal- ennau'r Traethodydd y daeth Cymru i wybod amdano. Yn rhifyn cyntaf y flwyddyn 1850 ymddangosodd ysgrif heb enw wrthi (yn ôl arfer Y Traethodydd y dyddiau hynny) ar y testun Siencyn Penhydd a daeth y wlad i'w hoffi i'r fath raddau nes bod galw am argraffu'r ysgrif yn llvfrvn. Y mae'r llyfryn yn cynnwys "amryw ddarnau newyddion am ddechreuad crefydd ein hewythr Siencvn." Gwelwyd hefyd, wrth gyhoeddi'r llyfryn, mai Edward Matthews oedd ei awdur. Cychwynasai Edward Matthews ei yrfa fel llenor yn 1834, pan gyhoeddodd Marwnad, er coffadwriaeth am v Parch Jenkin Harry, Dinaspowys (Merthyr, T. Price, 1834). Trigai ar y pryd ym Mhantylliwydd, Pen-Hin. Dechreuodd ysgrifennu i'r Drysorfa yn I836 ac ymddangosodd nifer o bethau uwchben ei enw yn y Drysorfa a'r Athraw rhwng 1836 ac 1849. Yn 1850 y mentrodd i faes Y Traethodydd. Yn ôl ei gofiannydd cyhoedd- odd Matthews y llyfryn tua chanol I85I o wasg William Jones, Pont-y-pridd,2 a gwir yw fod copiau ar gael yn dwyn y flwyddyn honno ar y ddalen-deitl; eithr awgrymaf mai ailargraff- iad yw hwnnw. Y mae yn fy meddiant gopi o'r argraffiad cyntaf. a chan fod hwnnw yn un prin iawn rhoddaf gopi o'i ddalen- deitl: Hanes Bywyd Siencyn Penhydd neu Mr. Jenkin Thomas, o Benhydd, yn sir Forganwg. Gan v Parch. Edward Matthews. Pontypridd Argraffwyd gan William Jones. 1850. (52 tt.) Yr oedd mynd mawr ar y llyfrvn, ac mewn adolygiad arno yn y Cylchgrawn vm Medi, I85I, dywedir os bydd rhai am ei gael, rhaid iddynt frysio. oblegid wrth bob argoel bydd yn 'fuan allan o argraff."