Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau CRWYDRO CEREDIGION. Gan T. I. Ellis. Llyfrau'r Dryw, Llandebie, 1952. Pris, 12/6. Y mae llyfrau teithio i'w cael yn Saesneg yn doreth enfawr o bob gradd, o rai ffeithiol lleol megis arweinydd i ardal Buxton (dyweder) i rai chwiwus ewỳr fel C. E. Montague neu Graham Greene. Bu'r Saeson hefyd ers canrif- oedd bellach yn deithwyr dygn ymhob rhan o'r byd, a daethant yn eu tro i gymryd golwg ar ein Cymru fach ni a rhoi hanes eu taith a'u barn am- danom yn eu llyfrau, — cofier enwau Pennant a Borrow heb enwi 1hagor. Bu teithio cyson yng Nghymru gynt hefyd ymhlith beirdd a chlerwyr ac aeth teithio'n rhyw fath o dwymyn ar y wlad yng nghyfnodau diwygiadau mawr y ddau can mlynedd diwethaf. Yn anffodus, serch hynny, ni phoenodd neb o'r beírdd na'r pregethwyr hyn roi i ni fawr ddim o fanylion yr hyn a welsant ar eu taith (os gwelsant heiyd !). Meddylier am John Jones, Talysarn, yn cychwyn o Drawsfynydd, Gorffennaf 20, 1829, am Geredigion a Phenfro a Chaerfyrddin ac yn ôl i Langeitho, Tregaron ac ymlaen adre erbyn Awst y 12fed. Yr oedd yn pregethu gvda neith mawi bron bob oedfa. Pregethodd, yn ystod y daith, un ar bymtheg a deugain o weithiau," medd y Cofiant. Pa amser neu hamdden oedd gan wr wrth waith mor feichus i weld na sylwi ar fân aneddau a gorchwylion ei gyd-ddynion? A dyna fu ein hanes, yn rhy brysur gyda gorchwylion ysbrydol neu faterol i gymryd fawr ddim hamdden i sylwi'n bwyllog ar y pethau oedd dan ein trwynau, gyda mwy o bwyslais ar y bereriniaeth nag ar y daith Eithr gwnaeth O. M. Edwards lawer iawn i gywiro'r cam hwn,dangosodd ef i ni ogoniant Cors Caron a harddwch Ardudwy yn ogystal a gogoniannau llachar Fenis a Fflorens. Ond bellach dyma i ni iyfr teithio heb honni bod yn ddim byd araîl. Mewn llyfr felly disgwyliwn gael ymgais ddangos y wlad i ni,­ymhle weld y peth a'r peth, a pha beth i'w weld yn y fan a'r fan. Trwy lygaid y sawl fo'n tywys y gwelwn ni'r wlad at yr hyn sy'n bwysig yng ngolwg ein tywysydd y tynnir ein sylw. 'rall mai hanes yr ardal, yn hen a newydd, a'i difyrra ef ac os mai »olygfevdd hyfryd o goed a blodau neu weithgarwch dynion ac anifeiliaid a phatrwm onawd y ddaear a'i diddora, ar y rheiny y bydd y pwyslais. Y mae rhanbartha.u sy'n eitbriadol gyfoethog mewn pethau fel hyn, heb fawr o waith gwthio na denu'r teithiwr yn ei flaen Nid oes gan Geredigion, serch hynny, fawr ddim syfrdanol i'w gynnig,- rhwydwaith o fân ffyrdd ydyw «i chefn gwlad ac anodd yn aml yw penderfynu p'run yw'r ffordd fwyaf diddorol. Ond os nad yw'n atyniadol ar yr olwg gyntaf, bu'n ffodus neilltuol yn ei dehonglydd yn y- Hyfi hwn. Cawn arweiniad sicr Mr. Ellis ar draws ac ar led #i. rhanbarthau—cyffinau Aberystwyth, ardaloedd Genau'r Glyn,