Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

od y Sir, ynghyd â rhai lliwus du a gwyn y Ffrisian neu goch a gwyn tanbaid yr Ayrshires dros rannau helaeth ohoni bellach. Gellid ymhelaethu ar batiymau cnvdau'r gwahanol ardaloedd a'r patrymau hynny wedi tyfu dan law garuaidd dyn o ansawdd pridd, galwad llechwedd a gwastad, a gofynion tywydd. Ni fwriadaswm gwyno wrth ddechrau rhoi gair o glod i'r gwaith trefnus cytbwys a destlus hwn. Mae ynddo dri map hwylus i'n cyfarwyddo a llu mawr o luniau gwerthfawr i roi cip i ni ar eglwys neu blasty neu bentref, a phanorama braf o'r Borth a'r gwastadeddau gerllaw Llanon. Eithr trueni mawr, yn fy nhyb i, oedd eu printio mewn inc coch-ddu. Credaf y byddent yn llawer mwy effeithiol mewn du a gwyn cymhared y darllenydd y ddau lun mewn du a gwyn ar y siaced Iwch â'r un lluniau yng nghorff y llyfr, i weled nad yw'r wawr sepia sydd arnynt yno'n gwella dim ar eu hegluider. Wedi traethu fy rhagfarnau fel hyn, nid oes gennyf yn y pen draw ond bod yn fawr fy niolch i Geredigion gael dehonglydd mor rhadlon, a gobeithio nad yw hon ond cyfrol gyntaf Mr. Ellis ar y Siroedd. Gobeithio y dar- hwyllir ef i fynd à ni ar daith drwv Feirion ac Arfon, Môn a Dinbych- nid oes yn sicr neb yng Nghymru a allai fod yn sicrach ei dywys drwy- ddvnt oll. A thu hwnt i ffiniau ei domen ei hun byddai raid i un adolygydd o leiaf dewi'n wylaidd W. BEYNON DAVIES. JOHANN GEORGE HAMANN. AN EXISTENTIALIST. By Walter Lowrie. Princeton Pampnlets. No. 6. Princeton Theological Seminary, Princeton, New Jersey 75 cents. Cyn i'r pamffled hwn ymddangcs, colofn ddigon dirmygus yn yr Encyclo- pedia Britannica a pharagraffau byr mewn thai llyfrau ar hanes athroniaeth oedd holl gorff ysgrifeniadau Saesneg ar waith Johann George Hamann, y gwr doeth o'r Gogledd," fel y gelwid ef. Yr ydym felly o dan ddyled drom i'r Dr. Lowrie am y pamffled byr ond goleuedig hwn ar fywyd rhyfedd Hamann a'i athroniaeth anodd. Ganed ef yn Königsberg, Awst 27, 1730. Yn ystod ei gwrs yn y Brifysgol daeth yn gredwr ffyddiog yn y syniad bod bywyd yn datblygu'n naturiol tuag at berffeithrwydd, cred a gafodd ei bn mwyaf yn y cyfnod pan oedd A yn ifanc, Dywed Dr. Lowrie Iddo ddylanwadu yn drwm, onid yn fwy na neb ar Kierkegaard. Fel y gwr hwnnw cafodd dròedigaeth a barodd iddo adweithio'n llym yn erbyn hiwmaniaeth a gadawodd y bywyd arwynebol a arweiniasai. Diddorol iawn yw ei gysylltiad â Kant-mor ddiddorol yn wir nes teimlwn y byddai'n fuddiol gwybod mwy am hynny. Yn hyn o beth carem pe bai Dr. Lowrie wedi cylìwyno'n glinach swm a sylwedd beirniad- aeth Hamann ar yr athronydd enwog. Efallai mai dyna wendid mwyaf y pamffled; er ei fod yn ddiddorol a llawn gwybodaeth nid yw'n ei gwneud yn bosibl inni ffurfio syniad clir am gyfraniad Hamann. Dywed Lowrie bod ei waith yn anodd ond yn werthfawr a honna iddo ddod o hyd i lawer dernyn o aur yn y mwynglawdd diarflordd hwn. Oni ddylasai geisio dangos yn gliriach beth yw'r trysorau hyn ?