Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O'r braidd y mae teitl y pamffled yn gywir. Ar tudalen 8 dywed Dr. Lowrie y gwnâi ei orau i ddangos beth a barodd iddo weld Hamann fel un o apostolion dirfodaeth \existentialism). Mewn nodyn ar waelod yr un tudalen ceir ganddo fel y disgwyliem, rai pethau doeth iawn i'w dweud a'n ddirfodaeth Kierkegaard. Ond nid yw'n egluro beth yw ei ddehongliad o'r term dirfodaeth. Ceir paragraff byr ar syniad Hamann am berthynas yr unigolyn â Duw ac ar yr un tudalen (td. 9) daw nodyn ar ei syniad am natur a phwrpas iaith a natur gwirionedd; ond ni cheir yn unman drafod- aeth glir a threfnus ar ddirfodaeth Hamann. Nid yw'n amlwg bod unrhy.v beth hanfodol ddirfodol yn y syniad o iaith fel mynegiant o'r gwirionedd a'r syniad o wirionedd fel adlewyrch realiti." Mewn gwirionedd atgof. ia'r termau hyn ni am y meddylwyr hynny a feirniadwyd gan Hamann a Kierkegaard o'r safbwynt ddirfodol. Ni allwn ddarllen y gwaith bychan hwn heb gofio am lyfr gwerthfawr Dr. Lowrie ar Kierkegaard. Ceir ynddo yr un brwdfrydedd a'r un diffyg meddylwaith sistematig wrth drin athioniaeth arbennig. Ni fynnem er dim wadu gwerth amlwg y pamffled. Gan i lyfr enwocaf Dr. Lowrie greu di- ddordeb yng ngwaith Kierkegaard carem feddwl y crea'r pamffled hwn ddi- ddordeb tebyg yng ngwaith Hamann. J. Heywood THOMAS. Llanelli. PILGRIMAGE OF PEACE. Gan C. M. Ll. Davies. Cyhoeddedig gan Gymdeithas y Cymod. Pris, 5/ Fel apostol heddwch yr ugeinfed ganrif yr adnabyddid George Davies yng Nghymru yn ogystal ag o'r tu allan iddi. Crynhowyd yn ei bersonol- iaeth bendefigaidd, yn ei eiriau a'i weithgareddau yr hanfodion a wnâi wir heddychwr. Arferid cyfeirio ato, fel Sant Ffransis cyn iddo gefnu ar «.i alwedigaeth fel rheolwr banc. Yr oedd yn wr a roddai addurn ac urddas ar ei alwedigaeth, ac yr cedd ei droed yn ddiogel ar y grisiau a arweiniai i binaclau uchaf y cwmni a wasanaethai. Cefnodd yn hytrach ar y pinaclau a dewisodd lwybr anodd yr Heddychwr Cristionogol. Pan oedd rhyfeloedd a sôn am ryfeloedd yn llenwi'r awyr, cododd ei leí dros heddwch trwy gyflafar- eddiad. Yn y gyfrol hon cawn gasgliad o'i fyfyrdodau mewn un-ar-ddeg o benodau gyda braslun o'r awdur gan y Canon C. E. Raven. Ymestyn vr erthyglau tros y blynyddoedd cynhyrfus o 1915 hyd I947—cytnod o ddeng mlynedd ar hugain. Dengys yr awdur yn glir mai mewn dynion, nid sefydliadau nac eglwysi yr oedd ei ddiddordeb. Egyr gyda disgrifiad gwych o Gaergrawnt yn 1915. Lleddf yw'r nodau a darewid­-amlwg ydyw fod olion y gyflafan ar ei enaid ond cafodd faim i'w loes wrth allor rhyw addoldy. Ymhola yn ddwys am graidd Cristionogaeth. Ai yr hyn a alwn n1 heddiw yn Gristionogaeth a ollyngwyd yn rhydd yn yr hen fyd ? A dynnwyd ohoni y rhamant a'r arwriaeth a berthynai iddi yn ei gwyryfdod i'w gwneud vn fwy derbyniol?