Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn ystod blynyddoedd y gyflafan gyntaf ganwyd Cymdeithas y Cymod, ond nid oedd yr awdur yn ddall i wendidau hon chwaith, oherwydd teimlai mai un o brif anghenion y Gymdeithas ydoedd grym cymod y tu mewn iddi hi ei hun. Nid oedd wedi cael gafael digon sicr ar werth personoliaeth a'r grym cudd sydd ynddi. Paham yr osgown hwn? Ai ofn? Ofn y cyhoedd ? Y wasg? Y gost? Barn yr awdur ydyw mai dyma wendid yr Eglwys a'r byd. Y dorf mewn rhyw ffurf neu'i gilydd sy'n teyrnasu ymhob cyfeiriad. Yr ydym oli yn gaethion, fwy neu lai, i rym mewn rhyw ffurf neu'i gilydd. A ydyw ei ddadansoddiad yn gywir? Credaf ei íod. A oes ymwared? Oes, meddai ef, os derbyniwn iesu Grist yn Arglwydd bywyd. Ei arglwyddiaeth a osgown. Bodlonwn ar iddo fod yn was iuni ond nid yn Arglwydd. Trown ei fethod y tu chwithig allan. Lladd yr elyn- iaeth trwy anwesu'r gelyn ydoedd ei fethod ef, bellach lladd gelyn a chadw'r elyniaeth yn fyw yw method y byd a'r Eglwys hefyd. Geilw sylw at y ffaith mai tri amheuwr (John Morley, Charles Trevelyan a John Burns) a oedd yn gwrthwynebu mynd i ryfel 1914, ac ar ei therfyn yn 1918 yr economydd J. M. Keynes a'r Cadfridogion Ian Hamilton ac Allenby a oedd am faddau i'r gelyn. Arweinyddion crefydd gyfundrefnol yn fud ac wedi colli gafael ar allu gras a chymod yr Efengyl Gwêl y Gorllewin yn datod ynghanol gwrthnawsedd a chwerwder a dyfyn- nir Tagore gan yr awdur i ddmoethi yr achosion. Argyhoeddiad George Davies ydoedd mai unig obaith y byd yw heddwch trwy gymod. Ofer cosbi'r gelyn na dinistno ei wlad a'i rai bach. Ni wna hynny ond creu anialwch a'i alw yn heddwch. Cyhyd ag y bydd ysbryd cael yn llywodraethu dynion a chenhedloedd â gwerth personoliaeth dan draed ni fedir tangnefedd. Gwêl y meddwl politicaidd a'i fethod wedi dyfod i ben ei dennyn. A phwy na wâd nad gwii hyn Y broblem yn y pen draw," meddai, yw ffydd, nid yn unig yng ngwerth personoliaeth ond yn ei gwaith, ei dylanwad a'i dygnwch yn yr olwg eang ar fywyd." Hon, dan arglwyddiaeth Crist yw'r unig obaith. Cyn terfynu carwn dynnu sylw at y bennod gyfoethog ar John Morgan Jones, Merthyr. I'r awdur yr oedd yn ymgnawdoliad o'r ysbryd a'r method a gredai ef ynddynt â holl angerdd tawel ei bersonoliaeth gyfoethog. Gwél yr un dylanwadau hunan-ymwadol yng ngwaith y Crynwyr a chymeriadau tebyg, ac oni ellir chwanegu at y rhestr George Davies ei hun? J. H. GRIFFITH. Dinbych. EFRYDIAU ATHRONYDDOL, 1952. Cyfrol XV. Golygwyd gan R. 1. Aayon. Gwasg Prifysgol Cymru. Casgbad o anerchiadau a draddodwyd yng nghynadledd Adran Athron- yddol Urdd y Graddedigion yn 1951 yw cynnwys Ejrydiau Athronyddol 1952. Bu Cynhadledd 1951 yn hynod ffortunus yn ei Llywydd, yn enwedig gan iddo ddewis Dychymyg mewn Barddoniaeth fel testun ei araith. A phwy amgenach yng Nghymru na'r Athro T. H. Parry Williams ,i draethu ar y