Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Y Mudiad Eciwmenaidd MAE'r gair eciwmenaidd bellach yn dechrau colli ei ddieithr- wch. Disgrifia'r mudiadl diweddar sy'n mynegi ac yn meithrin yr ymdeimlad o'r undod hanfodol sy'n bod erioed rhwng holl ganghennau'r Eglwys Gristionogol a'i gilydd. Mae Eglwys Crist yn gymdeithas fyd-eang, ac ynddi ceir llawer o wahaniaeth- au, ond ,ni ddylai'r un o'r gwahaniaethau hyn na'r cwbl ohonynt gyda'i gilydd beri i Gristionogion anghofio na gwadu'r undod gwir sy'n bod oddi tanynt i gyd. Fe'n hatgofir o eiriau'r Iesu, y Bugail Da: A defaid eraill sydd gennyf, y rhai nid ynt o'r gorlan hon y rhai hynny sydd raid i mi eu cyrchu, a'm llais i a wrandawant, a bydd un praidd ac un bugail (Ioan x, 16). Ar hyd y canrifoedd a thrwy'r gwledydd, nid oes ond un praidd, ac Ef yw eu bugail, bawb oíl fel ei gilydd. Mae'r undod hwn, sydd rhyngddynt erioed yn ffaith ac'yn wirionedd sy'n herio stad ran- edig yr Eglwys fel y mae. Amcan y Mudiad Eciwmenaidd yw tystio i'r ffaith real hon, a meithrin yr argyhoeddiad ohoni nes peri i'r Eglwys Fawr Gyffredinol ei mynegi yn ymwneud ei changhennau â'i gilydd, ac yn ei chenhadaeth heddiw tuag at y byd. Yr ydym yn byw mewn byd sydd mewn perygl enbyd oher- wydd ei raniadau trychinebus, rhaniadau a achosir gan y digofaint a'r ddrwgdybiaeth sy'n bod rhwng cenliedlioedd a'i gilydd. Ar yr un pryd, ni bu erioed yn fwy amlwg na heddiw na eill yr un genedl bellach fyw yn gwbl ar wahân, ac mewn annibyniaeth hollol. Mewn canlyniad i gynnydd gwyddoniaeth aeth y byd yn un gymdogaeth. Diddymwyd pellter i'r fath fesur nes bod y cenhedloedd mwyach yn bobl drws nesaf i'w gilydd ac ymddi- bynnant ar ei gilydd yn fwy nag erioed. Mae'n amlwg bod y cyfagosrwydd newydd hwn y ducpwyd hwynt iddo yn gosod mwy o straen ar eu perthynas â'i gilydd, ond cofier ei fod ar yr un pryd yn gwneud yn bosibl iddynt fod yn gyfeillion gwell nag a fuont erioed o'r blaen. Onid oedd y meithder ffordd a oedd Cyfrol CVIII. Rhip 467. Ebrill, 1953.