Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ERS blynyddoedd bellach, pan agorem bapur neu gylchgrawn, teimlem ein bod yn bodio llawysgrifau'r ne bob tro y gwelem gerdd o waith y Dr. R. Williams Parry ymhlith y cynnwys. Gwnâi'r cerddi hynny lawer iawn mwy na chadw'r traddodiad yn fyw," oblegid nid yn unig rhoddent sicrwydd melys bod barddoniaeth o hyd yn ateb dibenion Bardd yr Haf," ond dangosai rhai ohonynt y byddai ei ail gyfrol, pan gesglid hwy at ei gilydd, yn gymar teilwng i'w gyfrol enwog gyntaf ac o bosibl yn bwysicach na hi. Gyda chyhoeddi Cerddi'r Gaeaf aethpwyd i'w chwilio'n eiddgar am gerddi newyddion nas cyhoeddwyd i'r blaen. Aethpwyd ati hefyd i ddarganfod pa gerddi a adawyd allan. Ond fe fu'r bardd yn afradlon garedig, oblegid o'r braidd y gwarafunodd inni ddim o'i gynnyrch amrywiol. Peth piwis ac anniolchgar, mi wn, yw cwyno ar gyfrif hynny, ond rhaid imi ddweud y buasai'n well gennyf fi, 0 leiaf, pe na buasai'r casgliad mor anfeirniadol gynhwysfawr ag ydyw. Pe rhoddai cyfaill anrheg ysblennydd imi ar fy mhen blwydd, ofnaf y dechreuwn amau ei gwerth pe mynnai f'anrheg-u â rhodd fechan arall yn ychwaneg. Dyna pam y teimlaf yn annifyr wrth gael Y Gcm Robin Goch, dyweder, rhwng yr un cloriau ag Ymson ynghylch Amser. Hwyrach mai arwydd o ddifrifoldeb trymllyd drachefn yw teimlo bod cerddi megis Y Wers Sbelio neu ChuHlota, er mor glyfar ydynt, hwythau'n tresmasu ar dir y lord'. Ar eu pennau eu hunain, ac yn enwedig ar gof a chadw'r cylclioedd bychain a fedr eu gwerthfawrogi orau, y mae cerddi o'r fath yn ogleisiol ddigrif; ond fel rhan o gasgliad sy'n cynnwys y farddoniaeth fwyaf angerddol ond odid a feddwn, er na pheidiant a'n difyrru, ymdebygant i brofion o synnwyr digrifwch ac nid yw R. Williams Parry fyth yn ddigon sych-ddoeth iddo fod ag angen cael y gynneddf ddidoledig honno wedi ei phriodoli iddo'. Ar ben bynny, tybed nad yw rhai o'r cerddi yn rhy bersonol neu leol neu achlysurol eu diddordeb? Er enghraifft, efallai bod grym y ddwy gerdd Y Gwrthodedig a Y Dychweledig o'r math Cerddi'r Gaeaf. I