Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Seiliau Heddwch The experience of peace is torgely beyond the control of purpose. It comes as a gift. The deliberate aim at Peace very easily passes into its bastard substitute Anaesthesia." — A. N. WHITEHEAD. Gwahoddwyd fi gan Olygydd Y Deymas i ysgrifennu ar yr egwyddorion a gredir gan lawer ohonom sy'n methu derbyn safle'r pasiffydd. Hynny a gyfrif am ffurf neilltuol yr ymdrin- iaeth. Ond wrth geisio gosod y wedd gadarnhaol ar bwnc heddwch, gwelais yn fuan na ellid gwneuthur hyn yn effeithiol heb drin seiliau hanfodol y pwnc. Gwelwyd wedyn fod yr hyn a ysgrifennais ymhell y tuhwnt i derfynau gofod Y Deyrnas. A diolchgar ydwyf am barodrwydd Y TRAETHODYDD i dderbyn y gwaitli. Er nad myfi felly sy'n gyfrifol am ffurf y ddadl, fe oddefir i mi egluro fy mod yn dewis y gair cydnabyddedig pasiffydd yn hytrach na'r gair "heddychwr." Ni wn pwy oedd y cyntaf i'w ddefnyddio-pe tai waeth am hynny­ond credaf y dylai pawb ei arfer, o degwch a chywirdeb: tegwch at safbwynt bendant y pasiffydd ei hun, a thegwch at lu ohonom sy'n caru heddwch, ac yn gweithio dros heddwch mewn dulliau amgenach. Nid monopoli un blaid nac un dosbarth yw heddwch. Dysgwn gredu yn nilysrwydd a gonestrwydd ein gilydd. Wedi dweud hyn goddefer i mi dalu teyrnged i'r mudiad'. Er y buasai gorfod derbyn safbwynt y pasiffydd yn drais creulon ar fy rheswm ac ar fy nghydwybod, eto buaswn yn barod i roddi fy einioes-fel pawb sydd wedi ymladd yn y ddwy ryfel ddiwedd^ af-dros ryddid i'r pasiffydd ddilyn ei gydwybod yntau. Dyna yn wir, yn llythrennol, a wnaeth ein llanciau ieuanc, llon yn 1914-18, ac yn 1939-45. Rhoesant eu bywyd dros yr hawl i unrhyw ddyn-ar dir cydwybod—herio ac anufuddhau i'r Wlad- wriaeth. Er mai trigolion gwladwriaethol sy'n anghytuno'n bendant ag ef sy'n sicrhau yr hawl gwerthfawr yma iddo, yr ydym yn barod i gredu yng ngonestrwydd y pasiffydd.