Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiad GWAITH DAFYDD AP GWILYM. Thomas Parry. Caerdydd: Gwasg Prijysgol Cymru. 1952. Tt. [i]— cciii, 1—607. Pris, £ 1os. Bu llawer ohonom yn bur anesmwyth wrth ddarllen beirniadaeth lenyddol ar waith Dafydd ap Gwilym am reswm sy'n ymddangos i mi yn un sylfaenol bwysig gwyddem nad oedd gennym argraffiad beirniadol o'i waith a bod cryn amheuaeth ynghylch dilysrwydd rhai o'r cerddi a briodolid iddo ac y dyfynnid mor fJyddiog ohonynt gan y rhai a fu'n trin ac yn ceisio dehongli ei farddoniaeth. Y auae bron chwarter canrif er pan ddechreuodd yr Athro Thomas Parry ymgodymu â'r gorchwyl o geisio penderfynu pa gerddi y gellir eu hystyried yn waith dilys Dafydd a sefydlu testun dibynadwy o'r cerddi hynny. Ni raid pwysleisio pwysigrwydd y cyfraniad hwn i ysgol- heictod Cymraeg dylai maint ac ansawdd y cyfraniad fod yn amlwg pan ddywedaf mai'r gyfrol hon fydd y man cychwyn i bob astudiaeth bellach o waith Dafydd, boed yr astudiaeth honno yn un ieithyddol, llenyddol neu hanesyddol. Ac wrth ddweud hyn nid wyf yn anghofio ysgolheigion eraill a fu'n gweithio mewn rhannau o'r un maes ac y byddai gorchwyl yr Athro Parry wedi bod yn drymach pe na bai am eu cyfraniadau hwythau. Y gwr cyntaf i gymhwyso dulliau ysgolheictod diweddar at broblemau testunol gwaith Dafydd ap Gwilym oedd Syr Ifor Williams (fel y cydnebydd yr Athro Parry) yn Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i Gyfocswyr (1914). Yn ddiweddarach, yn 1923, dangosodd yr Athro G. J. Williams yn lolo Morgan- nwg a Chywyddau'r Ychwanegiad mai Iolo oedd gwir awdur dau o'r cywydd- au a geir yng nghorff y gwaith a briodolwyd i Ddafydd yn Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (1789), a deuddeg o'r un cywydd ar bymtheg a gyn- hwyswyd yn yr "Ychwanegiad" i'r gyfrol honno. A chynnwys cywyddau'r Ychwanegiad" priodolir 262 o gerddi i Ddafydd yn argraffiad 1789. Rhwng y cerddi a wrthodwyd gan Syr Ifor Williams a'r rhai y dangosodd yr Athro G. J. Williams mai Iolo oedd eu hawdur, yr oedd nifer y cerddi a ystyrrid yn waith dilys Dafydd wedi lleihau cryn dipyn. Ac yn awr dyma ragor o chwynnu yng nghyfrol yr Athro Parry erys cant a hanner o gerddi a dderbynnir-dros dro, beth bynnag-fel gwaith dilys Dafydd. Er hynny, o ddarllen y Rhagymadrodd a'r Nodiadau i'r gyfrol hon gwelir fod cryn ansicrwydd ynghylch dilysrwydd amryw ohonynt. Rhestrir yn y Rhag- ymadrodd, tt. clxxí-cxc, 177 o gerddi a briodolwyd i Ddafydd o bryd i'w gilydd yn y Ilsgrau. ond y bu'n rhaid i'r golygydd eu gwrthod fel cerddi annilys. Nid ar un darlleniad na dau y mae gallu iawn ystyried holl gynnwys cyfrol drwchus fel hon. Y cyfan yr wyf i am ei wneud yn yr adolygiad hwn-ar ôl darllen y gyfrol ddwywaith-yw nodi'n fras y prif bethau y ceisiodd y golygydd eu gwneud a mynegi fy ngwerthfawrogiad o'r gamp fawr a gyflawnwyd. Y gwaith sylfaenol sydd yn y gyfrol yw gwaith manwl