Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

wahanol, cyfeiriaf at rif y cerddi a'u llinellau. Yn 2, 31, nid oes gynghanedd yn "Yn y net y cyhoeddir," ac o sylwi ar y cymeriad llythrennol yn 11. 11­12, 15­16, 19-20, 23­24, 27­28, 35—36, o'r un gerdd gellir cynnig mai'r darlleniad gwreiddiol oedd Ny nefoedd y cyhoeddir." Yn 13, 87, darllener drydoll: ceir y ffurf yn gywir yn yr Eirfa. Yn 28, 5-6, oni ddylid darllen Pa plethiad neu Ba blethiad "? ?-y mae'r ail yn bosibl achos ceir enghraifft gweddol gynnar o feddalu ar ôl gradd gymharol yr ansoddair. Er mai nid sydd yn y llysgrau. i gyd, fe ymddengys, tybed nad od oedd y darlleniad gwreiddiol ar ddechrau 37, 7 ?—cf. 39, 34. Y mae'r Golygydd yn amheus iawn o ddilysrwydd y cywydd (57) i'r ` Fun o Eithinfynydd oherwydd brychau yn ei grefftwaith. Yr hyn a'm trawodd i wrth ei ddarllen oedd fod y disgrifiad o Forfudd yn 11. I0—I8 yn anghyson â'r hyn a ddywedir amdani mewn cywyddau eraill. Oni ddylid darllen Can ystlys yn 64, 3?—cf. 66, 2, a'r nodyn. Yn 96, 9, gwell gennyf i gymryd "huelydd hoen fel sangiad. Yn 120, 6 (cf. ar 64, 3) ceir cymeriad llythrennol trwy ddarllen can crefft neu "gan grefft." Yn 122, 21­2 darllener Mi a glywwn mewn gloywiaith/Datganu i gael cymeriad â "darllein yn 11. 23. Am beidio â meddalu'r gwrthrych pan na ddaw'n ddigyfrwng ar ôl y ferf, cymh. 123, 37­8, Cyd collwn Dirwyon; 126, 16, Gwybu'r gwas llwyd breuddwyd braw. Byddai'n well gennyf i atalnodi 137, 20-24 fel hyn Yn 141, 21, go anaddas yw'r ansoddair hael am y cysgod a elwir yn anwr hyll ac yn dwf ellyll." Dichon mai'r darlleniad gwreiddiol oedd haer ac y dylid darllen Nage, ŵr, haer anwr hyll." Yn 147, 51, lle yr adferwyd Eilywiant ymddengys i mi fod darlleniadau'r llsgrau. o blaid darllen Ei lyain yw ei lias hen ffurf luosog llw yw llyein (cf. B xiii, 184 ar 183, 1), ac ystyr y llinell wedyn fyddai fod Gruffydd Gryg yn dal mai tyngu ei fod wedi'i ladd (gan serch) y mae Dafydd, a hynny'n gelwydd- og. Sylwais hefyd ar y manion hyn yn 13, 17 .darllener Gwlad yr Hud fel yn 15, 2; 13, 104, arhoëd; 2o, 38, Llan-faes 81,7, dâl; t. 381 (3 11. o'r gwaelod) darllener 40 yn lle 41; t. 384, darllener 22 yn lle 12. Camleolwyd y nodyn ar 143, 32. Y mae'r gair siamp a drinnir ar d. 435 (ar 5, 25) yn fyw o hyd mewn rhannau o Sir Gaerfyrddin-a'r ffurf fychenig siempyn— yn yr ystyr o ledge," e.e., siamp y ffenest am sil y ffenestr. Cynhyrchwyd ac argraffwyd y gwaith yn lân ac nid yw'r ychydig gam- brintiadau y sylwais arnynt (t. xi, 3, awr yn lIe gŵr; t. ccii, L'Oeuvres Poetiques yn lle L'Oeuvre Poetiçue) yn debyg o gamarwain neb. Wrth ddiweddu, y mae'n rhaid imi longyfarch y golygydd ar ei waith gofalus a hefyd longyfarch Dafydd ap Gwilym ar gael ohono driniaeth mor ofalus a theg. Aberystwyth. Mi a rown it gyngor da: 0 cheraist eiliw ewyn, Lliw papir, oed hir hyd hyn, Llaesa boen y dydd a ddaw; Lles yw i'th enaid beidiaw THOMAS JONES.