Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Athrawiaeth y Drindod Arferai y diweddar Brifathro John Morgan Jones, o Goleg Bala-Bangor, ddweud fod y diwinydd yn debyg i'r llysieuydd yn cymryd blodeuyn a'i ddarnio a'i gyllell er mwyn gwybod mwy amdano. Darnio crefydd a wna'r diwinydd hefyd yn ei ymgais i'w deall. Ond mae cryn wahaniaeth rhwng y blodeuyn a ddarniwyd gan y llysieuydd a'r blodeuyn a dyf yn yr ardd! Blodeuyn byw yw crefydd. Y mae'n tyfu yng nghalon dyn ac yn perarogli cymdeithas. Amhosibl fyddai sôn am athrawiaeth y Drindod, oni bai am grefydd y Drindod. Y mae'r Hyfforddwr yn sôn am wirioneddau sydd i'w credu ac nid i'w hamgyffred. Un o'r gwirioneddau hynny yw Undod y Drindod. Y Tri yn Un a'r Un yn Dri Yw'r Arglwydd a addolwn ni," medd Gwyllt y Mynydd, yn ei emyn adnabyddus. Nid oes neb yn deall yr athrawiaeth hon yn llawn, ond y mae llawer yn ei chredu, a chredant hi am eu bod .yn ei derbyn yn syml fel y ffordd hwylusaf i feddwl am ddirgelwch y Duwdod. Yr un pryd y mae'n ddyletswydd arnom geisio deall yr Athrawiaeth. Fe ddywedodd John Calfin, un tro, Oni fedd- yliwn am Dduw fel tri pherson a'r tri yn Un, nid oes gennym wir wybodaeth am Dduw o gwbl." Fe ellir dweud tri pheth am yr athrawiaeth. (i) Ei bod wedi ei gwreiddio mewn ffeithiau hanesyddol. (2) Ei bod wedi tyfu trwy fyfyrdod ac ymchwil ddeallus. (3) Ei bod yn dwyn ffrwyth mewn bywyd Cristionogol ymarferol. (I) Ei bod wedi ei gwreiddio mewn ffeithiau hanesyddol. Fe ddaw dyn i wybod am Dduw, mewn un ffordd, trwy i Dduw ei ddatguddio ei Hun iddo. Gair y Beibl am ddatguddio yw llefaru." Y mae'r Epistol at yr Hebreaid yn sôn am Dduw, wedi iddo lefaru lawer gwaith, a llawer modd, gynt wrth y tadau trwy y proffwydi, yn y dyddiau diweddaf hyn a lefarodd wrthym ni yn ei Fab," Ond datguddia ei Hun nid yn unig