Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Brifysgol a'r Wcrin But I am almost sick of all this. Indeed I am not sure whether it would not be better to put an end to it at once. The name, University College, sounds very well at a distance, but it is very doubtful whether anything will come of it, besides failure and disgrace." Dyna sut y teimlai Lewis Edwards ynghylch Coleg Aberystwyth ym mis Mehefin, 1872. Ar y pryd, ym- egnïai Hugh Owen ac eraill i ddarbwyllo'i fab, Thomas Charles Edwards, i fynd yn brifathro ar y Coleg, ac ysgrifenasai'r mab yn ei betruster i geisio cyngor gan ei dad yn anad neb. Wrth ddarllen yn llyfr newydd Mr. T. I. Ellis* lythyr Lewis Edwards, y dyfynnwyd ohono eisoes, bûm yn meddwl beth a ddigwyddasai pe bai Thomas Charles Edwards, o ddarllen llythyr pesimistig ei dad, wedi digalonni'n llwyr, a gwrthod y gwahoddiad. Buasai hanes y Coleg a datblygiad y Brifysgol yn wahanol iawn, a bywyd Cymru yn anhraethol dlotach. Ac eto, wedi darllen y casgliad hwn o lythyrau, y syndod yw iddo dderbyn o1 gwbl yn wyneb holl ddryswch y sefyllfa yn haf, 1872. Yn un peth, buasai'r ewythr, David Charles, yn ysgrifennydd y pwyllgor oddi ar 1867, ac yn ddiamau breuddwydiai Charles yn ber un adeg am fod yn Brifathro'r Coleg ei hun. Er ei fod erbyn hyn wedi pwdu'n deg a'r pwyllgor, a hwythau wedi'u diflasu ag ef, ac er ei fod yn haeru nad oedd bellach am ei gysylltu â'r Coleg mewn unrhyw fodd, ofnai Lewis Edwards ei fod like the dog in the manger he cannot himself be Principal, and tries to hinder everyone else." Yn ei lythyrau at ei nai, dymunai David Charles bob llwyddiant a rhwyddineb iddo; ond rhôi'r rhybuddion mwyaf difrifol iddo yn erbyn y pwyllgor, ac yn arbennig yn erbyn ei enfinence grise, Hugh Owen: H. Owen has been my only difficulty, and I pity any man that will have to work under his rule. He is the most unpleasant man I ever tried to work with. But I have all along held out that a new & enlarged Committee must be formed, and that the T. I. Ellis (gol.), Thomas Charles Edwards Letters. Atodiad i Gylch- grawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyfres III, Rhif 3. 1952. 5/