Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

man as that prescribed by his own Church-and also for the recognition of the duty of publicly asking the Divine Blessing on the work to be done in the public halls of the Institution." Yn bennaf dim hyderai na fyddai i'r rhwygiadau hyn ddi- fetha'r Coleg. Ymbiliai dros ddealltwriaeth frawdol a chymodlawn In strictly Religious or rather denominational matters we may not succeed in securing formal union-as human nature, even its sanctified character, exists, this cannot be fully secured -but there is a inrtual union, which as Protestant Christians we may attain to, and unquestionably ought to foster and encourage ­I have been looking to Aberystwyth as a plan of renewal of confidence and cementing of Christian friendship while engaged in carrying out the work of National Education. Hwyrach mai'r dadleuon hyn yw prif ddiddordeb y casgliad hynod ddiddorol hwn. Dadlennant wahaniaeth barn rhwng y ddwyblaid ar athroniaeth gymdeithasol, yn ogystal â'r rhwygiad- au crefyddol. Y mae'r cweryl, fel y ffrwgwd a fu parthed Llyfr- au Gleision 1847, yn debyg i fynydd llosg. Dyma fflamau'r tyndra rhwng eglwyswyr ac anghydffurfwyr, a oedd bob amser yn corddi dan yr wyneb, ar amrantiad yn tasgu trwy'r gopa yn goelcerth ddinistriol yn hytrach nag yn dân cynhesol. Gellid yn deg ddeall drwgdybiaeth y naill ochr a'r llall. Oddi ar 1847, pan gyhoeddwyd y Llyfrau Gleision, aeth yn siboleth gan anghyd- ffurfwyr mai gwir amcan pob ymyrraeth eglwysig ym myd addysg oedd distrywio anghydffurfiaeth. Yr hyn na allodd vr offeiriad yr oedd yn rhaid i'r ysgolfeistr ei gyflawni. Ofnai'r eglwyswyr hwythau mai diwedd addysg anenwadol fyddai addysg ar.ghrefyddol, a fyddai'n rhwym o danseilio eglwys sefydledig. Rhaid cofio, fodd byhnag, er mai gwahaniaeth crefyddol yn unig ydoedd ar yr wyneb, fod y rhwyg erbyn hyn yn ddyfnach o lawer. Aethai bellach yn frwydr gymdeithasol a pholiticaidd, canys cydlifai delfrydau crefyddol ymneilltuaeth ag athroniaeth gvmdeithasol diwydiant a masnach yng Nghymru'r ganrif ddi- wethaf. Yn wir, dibenion economaidd yn hytrach nag amcanion addysgol a roes y prif ysgogiad i'r mudiad dros gael coleg athro-