Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

faol yng Nghymru yn y He cyntaf. Darllener sylwadau'r pwyllgor yn eu maniffesto yn 1863: While in times past the ministry seemed to be the only out- let to native talent, the increase of trade, the introduction of railways, the immense development of mining and manufactur- ing operations, the openings offered by competitive examina- tion for the highest posts in the Civil and Indian Services, etc., invite the young men of education in our day to a thousand lines of honourable employment and promo.tion. The varied and com- prehensive course of education which the University would supply would fit our young men for such openings and the enterprising Welshman, now almost always thrown into the rear, would soon be found successfully competing with the English- man and the Scotchman for posts of lucrative employment." Nid yw hyn oll yn ddim namyn datganiad coethach 0 syniad- au Davies Llandinam. Y mae hefyd yng ngwir olyniaeth credo William Williams, A.S., prif ysgogydd ymchwiliad 1846. Nid oedd dim o'i Ie mewn synied am bwrpas prifysgol fel hyn ond cofio nad dyna'i hunig waith na chwaith ei swydd bwysicaf. Y perygl oedd, fel y gwelai T.C.E., nad amgyffredai Davies Llandinam a llawer tebyg iddo, nad coleg hyfforddi na sefydliad technegol yn unig yr oedd prifysgol i fod; na ellid cau allan ohoni ond a fyddai o fantais uniongyrchol i'r myfyrwyr i godi yn y byd. Yr oedd ganddi ddyletswydd uwch, sef ceisio gwybodaeth a gwirionedd er eu mwyn eu hunain. Nid oedd T.C.E., ac yntau wedi dod o dan ddylanwad Benjamin Jowett, heb ddeall pwysigrwydd bara-menyn prifysgol; ond er mawr les i Brifysgol Cymru, cawsai'i drwytho hefyd yn nelfrydau disgleir- iaf Rhydychen gan bobl fel Jowett a Mark Pattison. Ac yn bwysicach fyth, cawsai'i fagu gan ei dad yn nhraddodiad mwyaf goleuedig ymneilltuaeth, y traddodiad a roes yr ergyd farwol i'r rhagfarn a lechai ym mynwes ymneilltuwyr fod addysg bron a bod yn gyfystyr ag annuwioldeb ac anwybodaeth yn famaeth santeiddrwydd. Dangosasai Lewis Edwards a'r Traethodydd fod greddf ymneilltuaeth ym myd addysg, ond cael ei harwain yn iawn, yn sicrach o lawer nag eiddo cyfalafaeth. Yr oedd hel gwybodaeth er mwyn ymgyrraedd at wirionedd yn fwy cydnaws