Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

â'i hathrylith hi na mynd dan addysg er mwyn gwneud arian. Oni bai am weledigaeth T.C.E. yn yr argyfwng hwn, gallasai culni sectyddiaeth ac uchelgais masnach fod wedi trechu. Arbed- odd T.C.E. y Coleg, a'r Brifysgol hwyrach, rhagddynt, a chynig- iodd i werin Cymru y ddelfryd uwch. Talodd y werin ei dyled iddo trwy ymateb yn deilwng o'i ymddiriedaeth. GLANMOR WILLIAMS. Abertawe. Diolch Diolch, O! ddyn, os gweli fan cyfarfod Daear a nef ar ambell ennyd awr, Os clywi sain nad yw ei swyn yn darfod, A ddyd ei gwefr yn nodau llwm y llawr Os daw yr haul ar dro i'th fro gynefin, A’i hud a'i olau o'i bellterau glân, Nid rhaid i'th fisoedd fod yn fis Mehefin Na'th oriau ar 'eu hyd i gyd yn gân. Cymysg o ddydd a nos yw'r rhod anochel, Daw dwr a thân o fru'r ffurfafen lefn; Ymdeithient atat, er i ti ymochel, Yn dawel gyson ac yn drwst di-drefn: Ä diolch fyth mewn hindda a drycinoedd Os gweli yno Frenin y Brenhinoedd. Llwyngwril. ABEL FFOWCS WILLIAMS.