Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Deuwn yn awr at anhawster arall gan y pasiffydd, sef nad yw'n iawn, dan unrhyw amodau gymryd bywyd. Y mae hwn yn fater digon pwysig i ganiatau rhyddid llwyr arno, ac nid oes yr un wladwriaeth yn wareiddiedig sydd yn ei atal, a'i wadu. Dylem hefyd gydymdeimlo â'r dyn sy'n teimlo grym yr anhawster hwn yn ei galon, er iddo fethu a'i fynegi'n foddhaol mewn geiriau. Y mae bywyd yn gysegredig, ac nid oes gan yr un dyn, ar ei gyf- rifoldeb ei hun, hawl i gymryd bywyd neb arall, nac hyd yn oed ei fywyd ei hun. Ond fe ddylid ychwanegu nad oes gan yr un dyn, ychwaith, hawl i fod yn achos i eraill gymryd bywyd. Gesyd y pasiffydd ei hun mewn enbydrwydd, a chyda phob parch i'w gydwybod ar y mater, ofnwn nad ydyw erioed wedi cymryd pwyll i feddwl o ddifrif am ystyr ei safiad. Canys nid yw'r sefyllfa yn agos mor syml ag yr ymddengys iddo ef. Pan fo dyn yn dwyn arfau mewn rhyfel, y mae, yn wir, yn ei osod ei hun mewn sefyllfa lle y dichon i'w ufudd-dod i orch- mynion milwrol fod yn achos iddo gymryd bywyd. Dyma ddeddf y Wladwriaeth, a'r unig rai sy'n rhydd oddi wrthi, yn y Lluoedd Arfog, yw Caplaniaid ac aelodau o'r non-combatant corps. Ond pe digwyddai milwr gymryd bywyd nid yw hynny yn llofruddiaeth yn ystyr y chweched gorchymyn, mwy na bod lladd dyn mewn amryfusedd gyda modur ar y ffordd yn llofrudd- iaeth. Nid wyf yn tybio fod yr un milwr yn y rhyfel diwethaf wedi profi yr un ias o euogrwydd os darfu i'w ufudd-dod beri i rai o'r gelyn golli eu bywyd; a hynny nid am fod cydwybod milwr yn llai cywir na chydwybod pobl eraill ond am nad oedd gyfrifoldeb personol arno am y weithred. Y mae'r cyfrifoldeb' ar y sawl a ddyry'r gorchymyn, ac yn ein gwlad werinol ni, y Llywodraeth sy'n gorchymyn. Eithr nid yw'r Llywodraeth yn gorchymyn rhyfela oni fyddo hynny yn ddymuniad ac yn ewyllys unfryd (bron) y cwbl o drigolion y wlad. Ni byddai unrhyw rym o gwbl mewn unrhyw orchymyn o'r fath oni bai fod grym ewyllys y bobl y tu cefn iddo, Mae'n wir na allai yr un wlàd Seiliau Heddwch II