Skip navigation
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
ryfela petai ei milwyr yn gwrthod, ond gan mai aelodau o'r
Wladwriaeth yw'r milwyr y mae ganddynt bob hawl i gytuno neu
i anghytuno â barn y mwyafrif. A chan fod y cyd-syniad yma
yn gorffwys ar yr egwyddor fod y milwyr, wrth ymladd, yn
cytuno i ufuddhau er mwyn arbed y byd a'i waredu oddi wrth
rywbeth llawer gwaeth na rhyfel, y mae'r cyd-syniad yn gorffwys
ar dir anhraethol gryfach a diogelach na barn unigol y milwr
ei hun. Y mae'n bwysig i ni sylweddoli fod gan y milwr
gydwybod fel y pasiffydd.
Pan gymer y pasiffydd arno'i hun anufuddhau i alwad ei gyd-
ddynion, y mae yn symud y cyfrifoldeb oddi ar ysgwydd cym-
deithas ar y mater hwn, ac yn ei dderbyn ar ei ysgwydd ei hun.
A dylai pob pasiffydd ofyn iddo'i hunan y cwestiwn anodd hwn
-`` A ydwyf fi, trwy wrthod ymladd, yn ddieuog o fod yn achos
i elyn creulon ladd pobl ddiniwed?" Dylai ofyn hefyd A
ydwyf fi, trwy wrthod ymladd yn cynorthwyo mewn difrod a
drygioni sy'n anhraethol waeth nag ymladd?"
Mewn cynhadledd basifìistaidd ar ôl y rhyfel diwethaf, fe
gododd brawd ar ei draed, estynnodd allan ei ddwylo, a dywed-
odd yn ddwys-H Yr wyf yn diolch i Dduw nad oes dim gwaed
ar y dwylo hyn." Mi glywais fod effaith y datganiad ar y foment
yn syfrdanol. Ond atolwg-A oedd y datganiad yn wirì Maen-
tumiaf ei fod ymhell iawn o fod yn wir. Er na allai'r brawd
hwnnw mo'r help fod ei gyd-ddinasyddion yn rhyfela, eto, yr un
pryd, ni allai ef chwaith, trwy wrthod pob cymorth iddynt, ddim
newid y ffaith eu bod yn rhyfela. Felly yr oedd yn gorfod byw
dan holl amodau gwlad mewn brwydr ingol am ei bywyd, gyda'r
cwbl a olygai hynny.
Ond fe ddylai fod wedi meddwl, cyn gwneud y fath ddafgan-
iad, nad oedd y gweddill o drigolion Prydain, er eu bod yn cyd-
synio â'r rhyfel fymryn mwy cyfrifol amdano nag oedd yntau.
Yn wir yr oedd cyflwr gresynus ein hamddiffynfeydd a'n harfog-
aethau yn brawf nad oedd unrhyw ysbryd rhyfelgar nac ymosod-
ol ynom fel gwladwriaeth, ac yr oedd difaterwch y Llywodraeth,
dan Stanley Baldwin, yn fynegiant cywir o'r ysbryd heddychol a
ffynnai ymhob dosbarth drwy'n gwlad. Daeth yn ffasiynol i
gondemnio Baldwin fel pasiffydd, ond oni chytunai pawb ohonom
a'i bolisi, hyd yn oed ar ôl inni weled y perygl?
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.