Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gallai pawb ohonom ymffrostio nad oedd dim gwaed ar ein dwylo o ran bod yn gyfrifol am y bywydau a gollwyd gan y gelyn. Ond nid y gelyn yn unig a gollodd fywydau. Gadaw- odd ein meibion dewr eu cartrefi; rhoesant eu heinioes yn aberth trwy gludo bwyd i'r werin ar draws y moroedd; aethant allan i rwystro'r gelyn i lanio ar yr Ynys hon; mentrasant i gaerau cryfaf y gelyn i'w atal a'i ddiarfogi. Trwy eu haberth drud gallodd y gwr hwnnw gysgu'n dawel a dibryder yn ei wely bob nos, a mwynhau yn union yr un breintiau cymdeithasol a chref- yddol heb unrhyw fath o anhwylustod i'w fywyd beunyddiol. Ac er ei fwyn ef rhoesant hwy eu bywyd i lawr, ac yr oedd eu gwaed ar ei ddwylo. Eithr y mae gwedd ddyfnach eto i'r broblem. Rhaid i'r pasiffydd ddewis trwy wrthod ymuno â'r Lluoedd Arfog, rhag ofn lladd y gelyn, gefnogi'r gelyn i ladd ei gyd-ddinasyddion. Os yw'n rhydd o'r cyfrifoldeb o ladd trwy wrthod ymladd, y mae'n euog, trwy yr un gwrthodiad, o. fod yn achos lladd trwy gefnogi'r dinistrydd. Y mae'n bechod lladd aelodau'r S.S. neu'r Gestapo, ond y mae'n iawn i'r Gestapo a'r S.S. lofruddio mil- iynau o bobl hollol ddiamddiffyn! Nid yw'n dianc o'i gyfrifol- deb moesol trwy wrthod gwneuthur ei ddyletswydd, nac yn dianc o'r cyfrifoldeb fod rhai yn colli eu bywyd. Ond y mae'n euog o rywbeth llawer gwaeth na hynny. Dewisa'r pasiffydd nerthu breichiau'r gelyn, ac felly y mae'n cefnogi'r sistem filitaraidd, orthrymus, sy'n sicr o ddileu pob iawnder a rhyddid yn llwyr pe caniateid iddi lwyddo. Onid ymffrostiodd Hitler ei fod ef am setlo dyfodol Ewrop am fil o flynyddoedd? Nid ymffrost wâg oedd hynny; gallai yn rhwydd ei ddwyn i ben. Ei ddull oedd dileu a llofruddio rhan helaeth o drigolion Ewrop, a dinistrio pob gobaith, a diffodd pob goleuni i'r gweddill. Nid yw'n bosibl felly i'r pasiffydd osgoi ei gyfrifoldeb trwy wrthod rhyfela. Un o ganlyniadau ei ddewis negyddol yw dewis y gwaethaf, sef mwy o ladd. Ond nid dyna derfyn y mater. Er fod bywyd yn felys ac yn gysegredig, y mae'r pethau yr oeddem yn ymladd drostynt yn fwy gwerthfawr ac yn fwy cysegredig na bywyd ei hun-sef daioni, tosturi, rhydd- id, cyfiawnder a chariad. Ac nac ofnwch rhag y rhai a ladd- ant y corff, ac nid allant ladd yr enaid: eithr yn hytrach ofnwch