Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiad THE THEORY OF UNIVERSALS. R. I. Aaron. Tud. vm. 247. Oxford. Clarendon Press. 1952. 21/ Yn y llyfr gwerthfawr hwn rhydd yr Athro R. I. Aaron inni beth o ffrwyth rhyw ugain mlynedd o fyfyrio ar broblem cyffredinolion. Cawsom eisoes gip-olwg ar y pethau da sydd i ddyfod yn ei erthyglau Locke's Theory of Universals a Hume's Theory of Universals {Proceedîngs of the Aristotelian Society. Cyf. XXXIII (1932-3) a Chyf. XLII (1941—2)); a\ erthygl ar Two Senses of the Word Unẁersal (Mind. Cyf. XLVIII. 1939), ac yn ei ddarlith Our Knowledge of Universals (Proceedings of the British Academy. Cyf. XXXI. 1945). Mae'n werth sôn am yr ysgrifau hyn, oblegid ynddynt hwy ac yn y gyfrol dan sylw, fe gawn yr ymdriniaeth fwyaf eang a threiddgar o broblem y cyffredinolion y gwn i amdani. Rhennir y gyfrol yn ddwy ran. Yn y ûRhan I olrheinir hanes y broblem ac wrth gyfiawnhau yr angen am wneud hynny, dywed yr awdur, When attempting to solve a philosophical problem it is unwise to .ignore the history of that problem (td. viii). Y mae'r broblem hon yn un sy'n codi byth a beunydd yn hanes athroniaeth. Ni raid pwysleisio pwysigrwy●d damcan- iaeth y delweddau yn athroniaeth Platon. Ac er i Aristoteles ymwrthod â syniad Platon am statws ontologaidd y delweddau, eto derbyniodd weddill y ddamcaniaeth. Gellir awgrymu ymhellach fod rhesymau da dros honiad Gilson; the whole philosophy of the Middle Ages was little more than an obstinate endeavour to solve one problem-the problem of universals." A dywed yr Athro Aaron ei hun, A strong case might be made, too, for the view that the crux and testing point of the empiricist argument in the seven- teenth and eighteenth centuries lay in its theory of universals (td. vii). Yr hyn sy'n rhyfedd, yn wyneb amlygrwydd a phwysigrwydd y broblem yn hanes athroniaeth, ydyw'r duedd ymhlith rhai athronwyr cyfoes i gredu mai pioblem ffug ydyw. Ceir ateb clir a chryno i'r athronwyr hynny ym Mhennod VI. Is there a real Problem?" Yn y Rhan II ceir ymdriniaeth bellach o'r problemau a gyfyd yn y Rhan I, ac yna yn y bennod olaf dyry'r awdur ei ddamcaniaeth ef ei hun. Y mae'r astudiaethau yn y Rhan I yn glir ac yn feistrolgar. Fe geir yma, nid yn unig esboniadau ar ddamcaniaethau athronwyr fel yr Ysgolwyr, Locke, Berkeley, Hume a Kant, ond hefyd gloriannu a phwyso gwerth eu daliadau. Dechreua'r awdur gyda Porphyry, oherwydd ef yn anad neb arall, a ddiffiniodd y broblem i'r Ysgolwyr. Yn anffodus, ni throsglwyddodd Porphyry y broblem fel y gadawyd hi gan Aristoteles. I Aristoteles, rhyw- beth sy'n gyffredin i nifer o wrthrychau yw'r cyffredinol, ac felly nid gwrth- rych unigol ar-ei-ben-ei-hun mohono. Ond y cwestiwn a ofynnwyd gan Porphyry a hefyd gan nifer o'r Ysgolwyr oedd hyn-Ai gwrthrych ydyw'r cyffredinol Ceir ymdriniaeth o'r cwestiw hwn yn y bennod gyntaf, a