Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Yr Ail-ddyfodiad. CYDNABYDDIR yn bur gyffredinol fod yr Eglwys Fore yn disgwyl dyfodiad yr Arglwydd Iesu Grist mewn gogoniant, a bod y disgwyl hwnnw wedi dylanwadu'n fawr iawn ar ei ffydd, ei bywyd a'i harfer. Wrth edrych ar yr Eglwys gwelir bod "y saint" yn sefyll fel milwyr wrth eu dyletswyddau, yn gwylio'n ofalus ac yn ymwrthod â phopeth a'u rhwystrai i fod yn barod. Yn barod i beth ? I ddyfodiad eu Gwaredwr mewn mawredd, parch a bri." O ganlyniad collasant eu diddordeb mewn pethau llai, a gwelsant yn glir mai'r gwerthoedd tragwyddol yn unig oedd o bwys iddynt. Hwyrach y bu'r Cristionogion bore yn annioddefgar pan wynebent eu cymdogion, yn Iddewon a phaganiaid, ac ymddangos fel Piwritaniaid cyn eu hamser. Ond, er iddynt gadw eu bywyd- au personol yn lân, ac yn siampl i'r byd yn gyffredinol, eto, nid oedd eisiau arnynt ffwdanu dim ynglýn â chaethwasiaeth nac un- rhyw broblem gymdeithasol arall. Onid oedd y gymdeithas honno a ffurf y byd hwn yn myned heibio yn fuan? Oni ddeuai'r Arglwydd ar fyr? Dengys cyflwr yr Eglwys yn Thesalonica ddylanwad y ffydd hon ar fywydau'r credinwyr. Gwrthodai rhai weithio. Onid oedd Crist ar ddyfod? Etyb yr Apostol: Os byddai neb ni fynnai weithio, na châi fwyta chwaith (2 Thes. iii, 10). Mae gan Moffatt nodyn diddorol iawn yn ei Historical Neiu Testament. Digwyddodd rhywbeth tebyg i hyn yn Tripoli yn 1899. Dywed- wyd y deuai'r byd i ben ar Dachwedd 13 o'r flwyddyn honno. Danfonai'r Iddewon eu gwragedd i'r synagogau i weddio, a pheidiodd llawer o'r gweithwyr â gweithio. Gwrthododd dyled- wyr dalu eu dyledion, a pharlyswyd busnes. Gwysiwyd un Iddew i'r llys am iddo wrthod talu ei ddyled. Cydnabu ei ddyled ond gofynnodd am bymtheg niwrnod i'w dalu. Ni fynnai'r