Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Cynhaeaf. FEL llawr o Gymry Llundain magwyd fi yn y wlad, ac y mae'r Dydd Diolchgarwch am y Cynhaeaf ymysg atgofion cynharaf bore oes. Nid ar y Sul y cynhelid ef ym mro fy mebyd ond ar ddiwrnod gwaith; caeid yr Ysgol y diwrnod hwnnw, ac âi'r plant gyda'u rhieni i'r Cyfarfod Diolch; byddai'n ddiwrnod o seibiant i ddyn ac anifail fel y Sul neu'r Nadolig. Ac yr wyf yn cofio ar ambell flwyddyn wleb neu anwadal y byddai cynnyrch rhai meysydd allan ar Ddydd Diolchgarwch yn nechrau Hydref, ond ni wnai hynny unrhyw wahaniaeth, rhaid oedd cynnal y Cyfarfod Diolch yn ei bryd, ac yr wyf yn credu mai ar rhyw achlysur felly y disgynnodd y geiriau hynod hyn ar fy nghlustiau am y tro cyntaf "Er i'r ffigysbren na flodeuo ac na byddo ffrwyth ar y gwinwydd; gwaith yr olewydd a balla a'r meysydd ni roddant fwyd, eto mi a lawenychaf yn yr Arglwydd; byddaf hyfryd yn Nuw fy iachawdwriaeth." Adnodau yn mynegi ffydd ddiysgog y proffwyd yng nghariad a thrugaredd Duw hyd yn oed yn nyddiau newyn,-ac yr oedd newyn yn beth cyffredin yn yr hen fyd, pan oedd y gwledydd yn dibynnu i raddau helaeth ar eu cynnyrch eu hunain. Ni wyddom ni ddim beth ydyw newyn; mae ein llinynnau wedi disgyn mewn lleoedd hyfryd ac mewn amseroedd tra gwahanol; mae cynnyrch holl wledydd y byd yn gwneud eu ffordd i bob tref a phentref yn y wlad yr ydym yn byw ynddi. Bûm yn synnu lawer tro wrth edrych o'm cwmpas yn rhai o ystordai y ddinas yma a chanfod yno nwyddau a chynnyrch y pum cyfandir, ac ynysoedd y .môr hefyd. Oni ddylai hyn fod yn destun rhyfeddod-a diolch­i bob un ohonom, fod cynnyrch yr holl fyd bellach at wasanaeth dyn, a chynnyrch holl foroedd y byd hefyd, mae'n debyg! Ni fu geiriau'r Salm- ydd am urddas a mawredd dyn erioed yn fwy cymwys nag ydynt heddiw: Gwnaethost ef ychydig îs na'r angylion; coronaist ef â gogoniant ac â harddwch. Gosodaist bob peth dan ei draed ef, defaid ac ychen oll ac anifeiliaid y maes hefyd. Ehediad y nef- oedd a physgod y môr a'r sydd yn tramwyo llwybrau y moroedd. Arglwydd ein Iôr ni, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl