Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Edifeirwch. Y MAE'r Cyfundeb yn cychwyn ar Ymgyrch Efengylaidd. Nodyn cyntaf yr Ymgyrch hwnnw fydd yr alwad i edifeirwch, onide ni bydd yn efengylaidd. Os trown i'r Testament Newydd i geisio neges arbennig yr Efengyl i ddynion, cawn mai un o'r geiriau cyntaf yw'r gair edifeirwch. Daeth Ioan Fedyddiwr gan breg- ethu yn niffeithwch Jwdea a dywedyd Edifarhewch." Dechreu- odd yr Iesu bregethu a dywedyd, Edifarhewch." Aeth yr apostol- ion allan i gyhoeddi bod Duw yn galw ar ddynion ym mhob man i edifarhau, ac y mae'n rhan hanfodol o briod waith yr Eglwys ym mhob oes i alw dynion i edifeirwch. Dyma ran ar- bennig o'i chenhadaeth hi yn anad yr un gymdeithas arall ymhlith dynion, ac onid yw'r alwad i edifeirwch yn ei phregeth, y mae nodyn hanfodol ar goll. Ond y mae'n rhan o'i chenhadaeth hi hefyd, nid yn unig i bregethu edifeirwch, eithr i roddi patrwm yn ei bywyd ei hun o'r hyn yw bywyd edifeiriol; mewn gair, y mae i .ddwyn ffrwythau addas i edifeirwch. Oblegid nid galwad at ddamcaniaethau nac at athrawiaethau chwaith yw galwad gyntaf yr Efengyl, ond galwad at ffydd ymarferol ac at ffordd arbennig o fyw. Rhaid felly i'r Eglwys feddu ar brofiad o'r hyn y geilw dynion ato, a'r profiad hwn sy'n rhoddi cymhwyster a hawl iddi apelio at y byd. Tybiwn felly nad anfuddiol fydd i ni yn nyddiau cynnar yr Ymgyrch roddi ychydig ystyriaeth i gwestiwn edifeirwch, fel y gallom vmateb yn ddeallus ac effeithiol i'r hyn y'n gelwir i'w wneuthur, gan roddi rheswm am y gobaith sydd ynom. Pa beth yw edifeirwch? Beth yw ei le yn y profiad Cristionogol ? Pa beth yw ei effeithiau ar ymarweddiad dyn? Ni fynnwn, hyd yn oed pe meddem gymhwyster, olrhain y syniad a'i ddatblygiad trwy'r oesau, nac ymdrin chwaith â gwa- hanol ffurfiau'r gair. Bodlonwn ar ddywedyd mai ychydig iawn, os dim sylw a roddid i edifeirwch gan y Groegiaid. Nid yw Aristotles yn cyfeirio ato o gwbl, ac ychydig iawn o bwys a rydd Platon iddo. Rhoddir ychydig mwy o Ie iddo gan y Stoiciaid, e.e., dywed Epictetus, Os mynni fod yn dda, cred yn gyntaf dy fod yn ddrwg. Ond yr oedd athroniaeth hunanddigonol y Stoiciaid yn milwrio yn erbyn y syniad o edifeirwch. Y mae'r syniad wedi ei glymu'n hanfodol wrth y syniad o bechcd, ac ni