Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

chymerai'r hen grefyddau bechod o ddifrif. Nid ffaith pechod, yn gymaint, a'u poenai hwy, ond breuder a marwoldeb a thrych- inebau bywyd dyn; gwaredigaeth oddi wrth y cyfryw bethau a geisiai dyn, a dyna a gynigiai ei grefyddau iddo. Nid oedd felly le i'r syniad o edifeirwch, a dywedir i'r pagan ddysgu yr hyn a wyddai am edifeirwch oddi wrth yr Iddew. Yn llenyddiaeth grefyddol yr Iddew, felly, y down gyntaf at unrhyw ddysgeidiaeth sy'n pwysleisio'r gwir angen am edifeir- wch a'i wir natur. Ceir y syniad yn gynnar yn yr Hen Desta- ment, ond fe drown ar unwaith at y proffwydi, oblegid hwy a'i dug i lawn olau dydd. Tardd dysgeidiaeth y proffwydi am edifeirwch o'u syniad am yr hyn oedd crefydd Israel, sef perthynas gyfamodol â Duw. Yr oedd Duw ac Israel mewn cyfamod â'i gilydd-yr oedd Ef yn Dduw i bobl Israel, ac yr oedd Israel yn bobl iddo Ef. Golygai hynny eu bod o dan rwymedigaeth i'w wasanaethu Ef ac ufudd- hau iddo'; ei orchymyn Ef oedd eu cyfraith hwy, ac Ef oedd eu Barnwr. Ond-ac y mae'r ond hwn yn bwysig-golygai'r cyf- amod anhraethol fwy na hyn: golygai'r cyfamod berthynas â Duw ei Hun. Nid Barnwr caled didostur oedd Duw, a'i fryd yn unig ar weled bod y genedl yn ufuddhau iddo. Ef oedd Brenin a Thad a Phriod y genedl, a'i fryd ar gadw'r cyfamod er i Israel ei dorri trwy ei gwrthryfel a'i phechod. Yr hyn a gais Duw uwchlaw pob dim yw dychweliad y genedl ato Ef trwy edifeirwch ac adnewyddiad buchedd gyfiawn. Y mae Ef yn aros ei gyfle i faddau a meddyginiaethu eu hymchweliad pan fo pobl Israel yn barod i edifarhau. Y mae ei faddeuant Ef yn disgwyl yr edifeir- iol, er y gall dynion drwy oedi eu hedifeirwch yn ormodol ddyfod o dan farn. Israel sydd wedi torri'r cyfamod ac nid Duw. Y mae Ef yn parhau yn ffyddlon i'w addewid, ac yn barod i dderbyn y dychweledig ac i faddau iddo ei fai. Prawf o hynny yw iddo anfon proffwyd ar ôl proffwyd i alw Israel i edifeirwch. Er iddo fflangellu, nid yw ei gosb ond disgyblaeth i ddwyn Israel i edifeirwch, ac i dderbyn o'i faddeuant. Y mae pwrpas grasol Duw yn aros, a'r pwrpas grasol hwn sy'n datguddio haerllug- rwydd pechod, a'r pwrpas grasol hwn, yn anad dim arall, yw'r cymhelliad cryfaf i edifeirwch. Gwna'r proffwydi, felly, ddau beth yn eglur. sef: (i) Ofn- adwyaeth pechod yw ei fod yn dieithrio'r genedl oddi wrth Dduw