Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwreiddiau Bywyd y Cristion* Y cwestiwn cyntaf a gyfyd i'r meddwl wrth wynebu y mater holl- bwysig hwn yw, Paham ymdrin ag ef o gwbl ? Cynnig yr ystyr- iaethau hyn eu hunain i ni: (i) Oherwydd yr ymosod ffyrnig a fu ac y sydd ar y Foeseg Gristionogol. Gofynnir a yw Cristionogaeth yn wir ac a yw hi hefyd yn angenrheidiol. Fel y dywed y Parch. J. R. Evanst gofynnir y cwestiynau hyn gan ddau ddosbarth o bobl, y rhai sy'n falch o esgus dros beidio a byw'r grefydd Gristionogol, a'r rhai sydd wedi llunio credo newydd iddynt eu hunain, ac yn cymell yn daer eu cyfeillion a'u cydnabod i wersyllu yn yr un babell â hwy, e.e., y Comiwnyddion; ac eraill a edrych ar y Wladwriaeth fel yr awdurdod terfynol ar gredo a buchedd. (2) Y mae'n gryn gysur i ddilynwyr Crist gofio yr enillwyd ym myd meddwl y frwydr yn erbyn Comíwnyddiaeth-a'r syniad- au sy'n troi o gwmpas y Wladwriaeth fel awdurdod terfynol ar gredo a buchedd. Nid oes gymaint o ymosod ffyrnig ac agored ag a fu yn y gorffennol. Y mae'r gelynion erbyn hyn yn gallach. Ceisiant weithio eu syniadau i mewn i wahanol batrymau bywyd yn dawel a thra llechwraidd. Y mae perygl i ni gredu-o ennill y frwydr ym maes y meddwl ysgolheigaidd-ei bod wedi ei llwyr ennill. Ond nid gwir mo hynny o bell ffordd. (3) Rheswm arall a nodwn dros ymdrin â'r mater hwn heddiw yw bod cryn amheuaeth gan lawer sy'n gysylltiedig â'r Grefydd Gristionogol am ddirweddolrwydd a gwerth ymarferol y foeseg Gristionogol. Nid ydynt wrthryfelgar ond yn dra amheus, ac o ganlyniad gwnant bob math ar arbrofion ym myd moeseg a derbyn y canlyniadau sy'n cyd-weddu â'i rhagfarnau personol a chymdeithasol. Oni wireddwyd bellach y sylw a wnaeth Dr. Inge yn 1930, Dichon y gwelwn arbrofion rhyfedd mewn moeseg Papur a ddarllenwyd mewn cyfarfod o Undeb Athrofa'r Bala yn Llandudno, Mai, 1953. t Cristionogaeth a'r Bywyd Da. Y Ddarlith Davies, 1938. Gwasg Gomer, Llandysul, 1941.