Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gair neu Ddau Wrth deithio drwy siroedd Cymru gofynnwyd i mi droeon beth oeddwn yn ei wneud o trigo am farwolaeth anifail fel cath, neu ddafad, neu fuwch. Yr hyn a flinai fy holwyr, meddent, oedd fod trigo hefyd yn golygu byw. Dywedid fod y dyn yn trigo mewn tý neilltuol, hynny yw, yn byw yno, ond ni ddywedid byth adeg ei farwolaeth ei fod wedi trigo. Marw, meddid, oedd y gair am ddyn, a thrigo am anifail. Fy noddfa arferol yn wyneb cwestiynau o'r fath yw troi i Eiriadur Dr. Davies o Fallwyd, 1632. Gan fod hwnnw yn esbon- io Cymraeg trwy roi'r ystyr yn Lladin, hwyrach mai gwell yw dyfynnu T. Richards (1710 — 90), a gyfieithodd Davies i'r Saesneg. Argraffiad 18 15 sydd gennyf, ac yn hwnnw rhoir trigo, to stay, to tarry, to dwell. In some places, to perish, to die, viz., of a violent death." Yn sicr `aros, preswylio,' yw'r ystyr gyffredin, ond yng Ngramadeg Siôn Dafydd Rhys, 1592, td. 183, rhoir nodyn ar englyn i Lywarch Hen, gwedy trigo ei holl feibion, sef wedi eu lladd. Cyhoeddodd Charles Edwards Y Ffydd Ddi- ffuant yn 1667; yn argraffiad 1677, tud. 129í sonnir am erlidiwr o Babydd yn Antwerp yn cael ei gipio gan gorwynt dros bont ym mhen y dref i glawdd dwfn, ef a'i gerbyd, lle trigodd ef a'i wraig." Mae'r defnydd yn yr enghraifft olaf yn hanner dirmyg- us; nid felly yn y cyntaf, ond medrid cyfieithu i Saesneg y naill a'r llall fel "perish." Dyna'r safle felly: ceir trigo am breswylio, aros, a trigo am drengi, darfod, yn arbennig am farw anifail, a bellach yn gyf- yngedig i farw anifail. Yn sicr nid yr un gair yw trigo yn y naill gysylltiad a'r llall. Rhaid chwilo am darddiad gwahanol i'r ddeuair. Cynigiaf fod yr ail air wedi colli sill. Rhydd Davies terrig, fel ansoddair 'oer, wedi cyffio, wedi fferu, garw,' a rhydd seren o'i flaen i ddangos ei fod yn air hynafol, godywyll. Bwrier ein bod yn gwneud berf o hwn, terìgo, fferu, rhewi, cyffio gan annwyd, sythu (stiffio!). Mae'r acen ar y sill olaf ond un, a golyga hynny fod y llafariad e yn y sill gyntaf yn aneglur, neu yn anghlywadwy. Hawdd iawn fydd iddi golli'n llwyr, a rhoi