Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Y Personol mewn Diwinyddiaeth Ddiweddar. UN nodwedd amlwg mewn diwinyddiaeth ddiweddar ydyw'r pwyslais cynyddol a roddir ar gategori'r personol wrth geisio esbonio natur Duw a'r berthynas rhwng Duw a dyn. Ni chyf- yngir y pwyslais hwn i un ysgol arbennig o ddiwinyddion, ond fe'i gwelir yn Brunner y Protestant, yn Gilson y Pabydd, yn Oman y 'Rhyddfrydwr, yn ogystal ag yng ngwaith y meddylwyr hynny (Buber a Heim, er enghraifft) sydd yn drwm dan ddylanwad dirfodaeth {existentkilism) Mor bell yn ô1 ag adeg cyhoeddi ei lyfr, The Philosophy of Religion, yr oedd Brunner yn sylfaenu ei gred ym mhwysig- rwydd datguddiad ar y ffaith mai bod personol yw Duw. "Ni ellir adnabod y 'Duw personol fel bod personol trwy gyfrwng syniad," meddai, ond yn unig trwy ddatguddiad personol unig- ol." Ond daw'r pwyslais hwn yn fwy amlwg yn llyfrau diwedd- arach Brunner, ac yn arbennig yn ei gyfrol bwysig, Revelation and Reason. Ymo, wrth gymharu datguddiad a rheswm, dywed mai rhywbeth amhersonol yw gwirionedd rheswm, ond y mae gwirionedd datguddiad yn hanfodol bersonol. Rhywbeth a roddir i mi o fyd arall ydyw, mewn perthynas rhwng bod person- ol arall a myfi fy hun, pan ymgyfarfyddwn â'n gilydd mewn un digwyddiad arbennig. Y Tydi dwyfol yn fy nghyfarch i mewn cariad dyna wirionedd datguddiad. Nid yw Brunner yn gwadu gwerth gwirionedd rheswm: y mae i hwnnw, er ei fod yn wirionedd amhersonol, ei Ie a'i waith. Nid yw'n anwiredd, oherwydd Duw a greodd yr amhersonol, hefyd. Eithr y mae rheswm o angenrheidrwydd yn annigonol i adnabod y byd per- sonol. Ni ellir gwybodaeth wrthrychol am bersonau; ni ellir ond adnabyddiaeth ohonynt mewn perthynas bersonol o gariad. Categoriau athronyddol ac amhersonol a ddefnyddir fwyaf gan y Pabyddion yn eu diwinyddiaeth. Sant Tomas o Acwin, y diwinydd o'r Oesoedd Canol, yw eu hathro a'u dysgawdwr, a'r hyn a wnaeth ef ydoedd defnyddio athroniaeth Aristotles i Cyfrol CIX. RHIF 470. IONAWR, 1954.