Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pwnc anodd yw hanes cau tir comin fel y tyfodd gwybodaeth am y broses yn Lloegr dangoswyd, er enghraifft, gan Syr John Clapham, mai anghywir oedd llawer o'r cyffredinoli a gaed ugain mlynedd a rhagor yn ôl. Gwelwyd bod nifer o eithriadau i bron bob gosodiad cyffredinol a bod gwahaniaethau sylweddol rhwng lIe a lle a chyfnod a chyfnod mewn llawer agwedd ar ddal a defnyddio y tir. Llai cywir os rhywbeth na'r cyffredinoli am Loegr ydoedd y ceisiadau aml i egluro hanes defnyddio tir Cymru drwy chwanegu rhyw frawddeg neu baragraff at yr hyn a ddywedwyd am Loegr. Syrthiodd hyd yn oed G. M. Trevelyan (efallai gan ddilyn Dr. C. S. Orwin, The Open Fields, 1938, td. 59) i gamwedd felly pan ddywedodd am Gymru: "Ni fu'r gyfundrefn o dir agored mewn bod yno erioed, ag eithrio yn y rhannau hynny o Sir Benfro lIe yr ymsefydlodd y Saeson (English Social History, 1944, td. 369). Bodolai cyfundrefn. neu'n gywirach efallai gyfundrefnau, tir agored ar y maenorydd Normanaidd mewn llawer rhan arall o Gymru; a chyd-aredig caeau agored yng nghymydau'r Cymry. Mae'r dasg o roi hanes y cau yng Nghymru yn arbennig o anodd oherwydd bod eto angen llawer o astudiaethau sy'n delio'n fanwl â'r hyn a ddi- gwyddodd mewn un Sir neu ddarn o Sir Gymreig: mae rhai astudiaethau o'r fath ar y gweill ar hyn o bryd. (Yn wir, er pan ysgrifennwyd y paragraff uchod, daeth yr Economic History Re- view am Awst, 1953, i law gydag erthygl gan R. R. Rawson ar The Open Field in Flintshire, Devonshire and Cornwall," sydd yn taflu goleuni ar gau tir llafur ym Mhenarlâg ar ôl 1748.) Cyfeirir droeon at anamlder astudiaethau lleol gan Mr. David Thomas yn y llyfr Cau'r Tiroedd Comin (Gwasg y Brython, td. 7­74, pris 5/-), sydd newydd ei gyhoeddi, eithr ar waethaf yr anawsterau ysgrifennodd ef lyfr ardderchog ar hanes cau'r cominoedd yng Nghymrtt Afraid wrth gwrs yw canmol gwaith Mr. Thomas: yn unig synnu a wnawn ato fel arbenigwr mewn cynifer maes, a mẃynh'au'r gamp Syŵjl'ar ei waith i gyd, Cau'r Tiroedd Comin.