Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ysgrifau y Parch. S. O. Tudor. TEIMLAF, fel eraill o ddarllenwyr Y TRAETHODYDD, ein bod yn ddyledus iawn i'r Parch. S. O. Tudor am ei ysgrifau ar Seiliau Heddwch. Gwir y dywedodd Golygydd Y Goleuad na allai "onid daioni ddeillio o'u trafod a'u beirniadu yn deg ac yn feddylgar." Eithr rii fedraf fi gytuno â safbwynt ddigyiaddawd a digym- rodedd awdur yr ysgrifau, a cheisiaf ddweud yn syml paham. Yn fy marn i, diffyg mawr ac amlwg yr ysgrifau yw y cymer yr awdur yn ganiataol fod y Wladwriaeth yr un mor garedig wrth bob un o'i deiliaid a'i bod hi yr un mor annwyl a pharchus yn eu golwg i gyd. Gwir y dechreua Mr. Tudor drwy ddyfynnu geiriau mawrfrydig Voltaire. Eto, oherwydd y diffyg hwn, sylfaen dotalitanaidd sydd i'w ddadl mewn gwirionedd. Y ffaith gyntaf y dylem ei hystyried wrth drafod problem- au'r Wladwriaeth ydyw fod gwahanol ddosbarthau o bobl yn gynwysedig ynddi. Sylwodd Mr. Disraeli ar y ffaith hon yn y ganrif ddiwethaf. Yr oedd cymaint gwahaniaeth rhwng y dos- barthau, medd ef, fel y gellid dweud fod dwy genedl wahanol i bob pwrpas yn cyfansoddi gwladwriaeth Lloegr. Daw yr un ffaith i'r amlwg yn y llyfr, The Condition of Britain, G. D. H. Cole, ac yn llyfr gwerthfawr R. H. Tawney, Equality. Y ddau brif ddosbarth, wrth gwrs, yw'r cyflogwyr, ar y naill law, a'r cyflogedig ar y llall. Perthynas dyn a'r moddion cynhyrchu sy'n penderfynnu ei ddosbarth mewn cymdeithas. Y mae'r gwahaniaeth mewn breinioldeb mor fawr rhwng y dosbarthau hyn nes bod gwahaniaeth sylfaenol yn y ffordd yr edrychant ar y Wladwriaeth ac y teimlant tuag ati. Y mae lleiafrif bychan o bobl a chyfoeth enfawr ganddynt, ac eraill yn yr eithaf arall yn byw mewn angen yn barhaus. Yna cawn y mwyafrif yn weddol gyffyrddus eu byd. Y mae yr un peth yn wir am y Gwladwriaethau i gyd. Deallwn bod o leiaf ddeng miliwn ar hugain o ddeiliaid yr Unol Daleithiau yn byw mewn tlodi dygn. Ac ar y llaw arall, cawn nifer cymharol fychan yn medru fforddio trafaelio yn eu trênau a'u moduron preifat. Y mae ganddynt hyd yn oed eu llongau môr ac awyr eu hunain. Treuliant eu