Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyrus. Cyrus! Pwy ydoedd? Na frawyched y darllenydd. Nid ceisio dadrys unrhyw broblem Iddewig y byddaf yma, ond dilyn camrc Cyrus a fu'n arloeswr gwasanaethgar ym myd chwarelwyr Gogledd Cymru. Er ehanged ei wasanaeth yn Nyffryn Nantlle (a Gogledd Cymru o ran hynny), prin hwyrach fod pump y cant o drigolion y Dyffryn yn gwybod odid ddim amdano. Y mae hanner can mlynedd o dawch ango wedi ymdaenu tros ei hanes er iddo fod yn gymeriad amlwg iawn am gyfnod maith. Amryfusedd anodd ei esbonio yw fod y Parch. William Hobley wedi ysgrifennu hanes eglwys Salem, Llanllyfni, yng nghyfrol hanes Methodistiaeth Arfon, Dosbarth Clynnog, heb gyfeirio o gwbl at W. W. Jones (Cyrus), er iddo wasanaethu fel blaenor yn yr eglwys am dros ddwy flynedd ar hugain, a bod yn arweinydd amlwg yn holl agweddau bywyd yr eglwys, a bywyd cyhoeddus y cylch am gyfnod mor faith. Rhagor, yr oedd ym meddiant Hobley gofiant helaeth i Cyrus (a fu'n fuddugol mewn cystadleu- aeth bwysig) ynghydag ysgrifau o waith yr ymadawedig ei hunan, yn cynnwys manylion gwerthfawr o hanes yr achos yn Llan- llyfni. Yr unig esboniad posibl ydyw fod yr enw wedi llithro allan o'i feddwl rywsut. Cyrus ydyw'r unig flaenor o'r eglwys na chafodd sylw ganddo, er ei fod y mwyaf haeddiannol oher- wydd cyffredinolrwydd ei wasanaeth. Nid blaenor mewn enw a fu Cyrus am y cyfnod maith y bu yn y tresi, ond gallu gwerth- fawr yn tynnu'r achos, a phawb arall, yn ei flaen. Mor flaen- llaw oedd fel y gellid eich cyfiawnhau am dybio mai ei eiddo ef oedd yr eglwys a'r achos. Manteisiodd yr eglwys a chymdeithas ar ei asbri. Bu teulu ei dad yn trigo am ganrifoedd ym Mryn Bychan, Llanaelhaearn, a hawliai ddisgyn o Angharad, ferch Morus ap Gruffydd, o'r Plas Du, ac yn yr âch yr oedd John Owen, awdur yr englynion Lladin, a John Roberts, y bardd swynol o Lundain. Yr oedd ei fam yn gyfnither i Nicander. Gwelir felly fod ei wreiddiau yn tarddu o dir da, ac oherwydd hynny dylai gynhyrchu