Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

\r Ymgyrch a'r Ymchwil. Mae mwy na blwyddyn a hanner o amser wedi pasio eisoes er y Sasiwn Unedig, Aberystwyth, 1952, a "chaniad yr utgorn." A ddaeth yr Ymgyrch yn gliriach i ni erbyn hyn? O leiaf cawsom amser i feddwl rhywbeth amdano; tybed a allwn ninnau ddywed- yd: "tra 'r oeddwn yn myfyrio, enynnodd tân ynof"? Pa egwyddor a ddylai ein llywodraethu wrth ystyried y mater ? Hon o leiaf: y mae i'r gorffennol ei arwyddocâd mawr, ond mwy pwysig o lawer yw ansawdd a phosibiliadau'r dyfodol. Cyn bod Ymgyrch," felly, r'haid wrth Ymchwil." Nid oes dim sy'n fwy pwysig i ni ar hyn o bryd na beiddio darllen y dyfodol er mor astrus ac anhysbys ydyw. Efallai yn wir nad yw ymchwil ac arbrawf yn nodweddiadol o gwbl o'r Cyfundeb Presbyter- aidd. Rhaid anwybyddu hynny ac anturio'n lew ymlaen. Nid oes Ymchwil heb fentro. Y Cefndir. Ymddengys i mi fod dwy duedd yn y Cyfundeb y perthynwn iddo, er nad yw'n hawdd rhoddi enwau penodol arnynt. Ar antur galwn un y Traddodiad Cynhenid. Rhywbryd yn y cyfnod bore gelwid ef yn Fethodistiaeth heb un diffiniad chwanegol; ymhen amser ychwanegwyd ato Bresbyteriaeth; eisoes hefyd fe roddesid i Galfiniaeth ei lle. Ymddengys bod dau feddwl wrth wraidd y traddodiad cyntaf hwn, yr ymofyn am ryddid, oblegid ansawdd briod y Diwygiad a'r amharodrwydd i fod yn Eglwys- wyr yn unig, a'r duedd at fsth neilltuol o drefn grefyddol, trefn Genefa neu'r Alban. Eglur yw i mi i'r Cyfundeb ddatblygu i raddau pell ar linellau canolog y traddodiad Methodistaidd bore. Tueddai at geidwadaeth ac uwchlywodraeth. Gwan ydoedd mewn elfennau gwerinol. Fel cyfundrefn cyfuniad ydyw erbyn hyn o ddiddordebau neilltuol mewn fframwaith Bresbyteraidd gynyddol. Prin y mae dim sy'n dangos hyn yn well na chyf- ansoddiad y Gymanfa Gyffredinol; y mae yn hwnnw ddarlun go