Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Mae Nghalon i." Mae 'nghalon i mewn gardd fach bert yng Nghymru Lle tyf y leilac pêr yn rhaffau gwyn; Daw swn y glasfor dwfn a'i don annwylgu Dros ben y banc a heibio min y llyn. Mae 'nghalon i ar aelwyd fach yng Nghymru Lle cysga Twm y gath yn fodlon braf; Gwrandewais yno drombôn y storm a'i drym-ru Ar nos o aea', a mein-grwth awel haf. Mae 'nghalon i yng ngofal merch o Gymru, Os wyf yn alltud yn y ddinas bell; A swyn ei llygaid glas o'r strydoedd obry A'm geilw 'nôl, yn ôl wynfa well. W.D.P.D. (Ateb i I leave my heart in an English garden.")