Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau. LLYFR GWEDDI GYFFREDIN, 1567. Wedi ei olygu gan Melinüe Richards a Glanmor Williams. Caerdydd. Gwasg Prifysgol Cymru. Pris, 45/ Buwyd yn hir ddisgwyl am argraffiad hylaw o'r Llyfr Gweddi Cymraeg cyntaf hwn am fod copïau ohono mor brin,-pedwar ohonynt yn unig sydd ar gael a dim un o'r rheiny'n gopi perffaith; hefyd am fod cymaint o bethau croes i'w gilydd wedi eu dweud o dro i dro am ei ieithwedd, ac am bwy bynnag oedd yn gyfrifol am ei drosi. Dywed clawr llwch yr argraffiad newydd hwn ei fod "yn un o destunau sylfaenol rhyddiaith Gymraeg, ac eto ychydig iawn o sylw a gafodd gan ysgolheigion a'i fod "yn un o'r llyfrau gwirioneddol bwysig hynny a foldiodd yr iaith yn un o'i hargyfyng- au pennaf." Ymddengys felly mai cymelliadau ieithyddol a llenyddol a barodd roi inni'r argraffiad newydd hwn; a digon teg hynny, canys nid oes ond gwahaniaethau cymharol ddibwys rhyngddo a'r Ll.G. ar arfer yn ein heglwysi heddiw, ac am hynny ni ellir dweud bod iddo bwysigrwydd athrawiaethol arbennig. Arfaethasai'r diweddar Hybarch John Fisher gyhoeddi argraffiad newydd ohono, yn ôl ei nodyn yn y rhagymadrodd sydd ganddo (t. xvi) i argraffiad 1931 o Kynniver Llith a Ban, ond ni chafodd ef fyw i gyflawni ei addewid. Nid tasg hawdd oedd ymgymryd â'r gwaith gan nad yw copiau'r argraffiad cyntaf sydd ar glawr, fel y dywedais, ddim un ohonynt yn hollol gyflawn, ac am fod eu papur, fel y dywed golygyddion yr argraffiad newydd yn eu Rhagair, wedi melynu cymaint nes tywyllu teip eu llythyren ddu. Oni bai am hynny .gellid bod wedi cael argraffiad replica ohono fel ag a gawsom o destunau eraill. At hynny, y mae iaith ac orgraff y llyfr mor annisgwyl mewn mannau nes gofyn am y gofal mwyaf manwl wrth olygu. Mewn llythyren ddu y mae Ll.G. 1567, ond mewn llythyren rufeinig hardd o waith Gwasg Rhydychen y mae'r argraffiad newydd. Rhoir y 'glosau' a geir ar ymyl y ddalen yn y gwreiddiol mewn llythyren fanach yn yr argraffiad hwn, a gwnaed ymdrech deg i'w cael gyferbyn â'r gair a eglurant,'—nid yw hynny'n digwydd bob amser yng nghopïau 1567. Hawdd fyddai credu mai'r priflythrennau ar ddechrau gweddiau ac adrannau, a achosodd fwyaf o drafferth i'r golygyddion. Y mae i'r rheiny, yng nghopïau 1567, addurn blodeuog yn nhraddodiad llythrennau tebyg yn y llysgrau., ac ni all y llythrennau mawr moelion yn yr argraffiad newydd roi'r un boddhad i'r llygad ag a wnai'r rhai addurnedíg, yn wir rhônt olwg wyrgam i ambell dudalen, megis tt. 116­7, 224­5. Ni allwyd chwaith ddangos y ffrâm a'r penawdau coch a geir yn rhannau rhagarweiniol argraffiad 1567.