Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

A FAITH TO PROCLAIM. Gan lames S. Stewart, D.D., Hodder and Stoughton. 9/6. Mae'r Darlithiau :Lyman Beecher a draddodir yn flynyddol yn Mhrifysgol Yale wedi ymddangos bellach mewn aml gyfrol werthfawr. Disgwylir i'r darlithydd drafod rhyw wedd ar waith pregethwr, a oheir yn y gyfres nifer o drafodaethau ar y ffordd o gyfansoddi pregethau a chyfarwyddiadau ar y dull o'u traddodi. Eithr delio â neges hanfodol y pregethwr Cristion- ogol a wna'r gyfrol hon. Cyhoeddodd yr awdur yn flaenorol y gyfrol adnabyddus, Heralds of God, sy'n ymwneud â'r modd i gyfansoddi pregeth ac i'w thraddodi. Yma cyflea ei syniad am yr Efengyl ei hun yn ei chyn- nwys holl-gyfoethog. A gwna hynny mewn ffordd a bair i'r darllenydd deimlo fod y darlithydd yn Uefaru dan argyhoeddiad sicr a dwys o werth ac addasrwydd yr Efengyl ar gyfer byd a bywyd heddiw. Ef yw'r Athro yn Iaith, Llenyddiaeth a Diwinyddiaeth y Testament Newydd ym Mhrif- ysgol Edinbuigh. Cyn ei alw i'r Gadair, bu'n weinidog un o brif eglwysi'r ddinas honno a chyhoeddodd ddwy gyfrol o bregethau sydd wedi cael cylch. rediad eang. Yr un yw nodweddion y gyfrol hon ag eiddo'r rheini. Anodd meddwl am neb yn ei darllen heb deimlo'r sicrwydd a'r "dwym ias'' sy'n rhedeg drwyddi a'i gael yn rhyfeddu o'r newydd at ogoniant dihafal y neges amhrisiadwy a ymddiriedir i'r Eglwys ac i'r pregethwr Cristionogol. Mae i'r llyfr werth defosiynol sydd yn ei argymell, nid i'r weinidogaeth yn unig, eithr i bob aelod eglwysig. Tra gwerthfawr i'r bywyd mewnol yw'r pwys- lais a esyd ar gymundeb personol â'r Arglwydd Iesu ac ymlyniad wrtho Ef fel anhepgor y bywyd Cristionogol. Gair mawr y gyfrol yw proclaim." Yn y rhagair, sonia am rwymedigaeth yr Eglwys i gyhoeddi'r Efengyl, nid yn unig o bennau'r tai, eithr i'w hymgnawdoli hi mewn ymddygiad cym- deithasol, ac yn y cydymdeimlad hwnnw a gyneuir wrth fflam cariad Crist. Nid yw'n anghofus o hyn, er egluro yn ei ragair nad oedd ganddo ofod yn y gyfrol hon i ymhelaethu ar yr agwedd honno ar y gwirionedd. Ar y dechrau, sonia am gyfrifoldeb yr Eglwys i efengyleiddiio. Bu adeg- au y gelwid arni wynebu tasgau eraill, megis ail-fynegi'r ffydd a diwygio ei threfniadau. Nid oes dim mor bwysig iddi heddiw â chyhoeddi i'r byd air oreadigol y Groes nes bod dynion yng nghanol yr anhrefn a'r anobaith presennol yn canfod gogoniant yr Atgyfodiad. Anhepgor efengyleiddio effeithiol yw bod yn; sicr o'r neges. Croesawa'r awdur y pwyslais diweddar a geir yn yr astudiaeth o'r Testament Newydd ai undod ei amrywiol rannau. Drwy'r Efengylau, yr Epistolau, yr Actau a'r Datguddiad yn eu holl amrywiaeth, rhed y neges {kerygma). Baich y pregethu apostolaidd oedd y ffeithiau hanesyddol a ddigwyddasai a'r arwydd- ocâd terfynol ac absoliwt oedd iddynt yng ngolau profiad y rhai a'u cyhoeddai. Dywed dri pheth am ffeithiau'r kerygma, sef (1) Efei'thiau mewn hanes oeddynt. Thus by its very genesis and nature Christian faith is inextricably involved in history. If it íTÌes to evade the consequences of that involvement, it ceases to be Christian." (2) Ffeithiau unwaith am byth oeddynt. In Christ, crucified and risen, the unique diviûe event has