Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Y Genadwri Gristionogol yn y Testament Newydd. I AMLWG ydyw na allwn fyned ymhellach na'r Testament Newydd yn ein cais i olrhain y genadwri Gristionogol i'w tharddiad yng ngeiriau a gweithredoedd Iesu Grist ac ym mhregethu'r apostol- ion cyntaf. Pwnc y pregethu hwnnw yn hollol glir oedd bywyd a gwaith a marwolaeth yr Arglwydd: dyna lle y gwelir Efengyl Duw yng N ghrist-yn ei ddysgeidiaeth a'i esiampl a'i waith gwaredigol, ac yn eu hystyr i ddynoliaeth yr adeg honno ac 1 ddiwedd y byd. Onid oedd ysgrifenwyr y Testament Newydd eu hunain yn llygad-dystion o'r digwyddiadau, yr oeddynt mewn cyffyrddiad agos â'r sawl a welodd ac a glywodd yr Iesu, a diogelir inni yn eu llyfrau yr argraff gyntaf ac annileadwy a wnaeth dyfodiad Crist ar ei gyfoeswyr a'i ddilynwyr. Gan hynny, y mae gwerth a phwysigrwydd y Testament Newydd i'r pwnc presennol uwchlaw pob amheuaeth. Er hynny, nid yw'r gwaith o ddarganfod y genadwri Grist- ionogol yn y Testament Newydd heb ei anawsterau. Er mai'r Testament Newydd yw'r lleiaf o glasuron crefyddau mawr ein byd, rhoddir o fewn ei derfynau fynegiant i'r genadwri honno mewn nifer rhyfeddol o wahanol fíyrdd. Dyma y rhai pwys- icaf: yr hanes yn yr Efengylau Synoptig am eiriau a gwaith Crist, yr Efengyl fel y gosodwyd hi allan ym mhregethu'r Eglwys Fore ym Mhalesteina, diwinyddiaeth Paul, dehongliad Ioan o'r Efengyl, ffyrdd yr Epistol at yr Hebreaid ac Epistolau Iago a Phedr o edrych arni, a safbwynt apocalyptig Llyfr y Datguddiad. Y mae'n amlwg fod llawer mwy o amrywiaeth yng nghyflwyniad yr Efengyl yn y Testament Newydd nag y tybid unwaith, a chwanega'r ffaith hon yn fawr at ei arwyddocad a'i werth. Ond, er yr holl amrywiaeth, nid yw'n llai gwir y perthyn i'r Testament Newydd unoliaeth ac arbenigrwydd eithriadol. Prin