Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Amodau Adfywiad Ysbrydol (Actau xi, 42.) ERS tro byd bellach galwyd y flwyddyn hon mewn mwy nag un cylch yn flwyddyn y deffro. anfynych y clywir pregeth nad oes gyfeiriad ynddi at hynny. Gwnaed ymdrechion cftídwiw mewn mwy nag un lle i hyrwyddo'r Ymgyrch." Amser a ddengys pa ffrwyth a fydd wedi'r holl gynllunio a threfnu, ac nid eiddom ni yr hawl i farnu eu gwerth na phrisio'u dylanwad. Ein cyfrifoldeb ni yn ddiau yw hau braint un ydyw plannu, a daw un arall ar ei ôl i ddyfrhau, ond Duw biau "roddi'r cynnydd." Cofiwn hefyd "nad edrych Duw fel yr edrych dyn: canys dyn a edrych ar y golygiad; ond yr Arglwydd a edrych ar y galon." Nid gweddus inni felly fwrw barn fyrbwyll ac ar- wynebol ar unrhyw ddull a gymerir, rhag ofn mai hwnnw ydyw'r mwyaf addas a phriodol ar gyfer yr amgylchiadau. Ar y llaw arall, dylem fod yn ochelgar rhag llithro i synio mai ein dull neilltuol ni ydyw'r unig un cymeradwy. Y mae sôn am ddeffro ynddo'i hun yn beth da, oblegid rhag- dybia bod rhywrai yn ddigon byw i sylweddoli bod rhyw ysbryd cysglyd megis clog dros bopeth, a bod yr adeg wedi dyfod inni ddechrau ymysgwyd. A phwysig yw ein bod oll yn sylweddoli mai galwad ydyw am i ni ein hunain ddeffro. Nid oes neb a wad nad oes angen deffro mewn llawer cylch, oblegid nid mewn cylchoedd crefyddol yn unig y mae syrthni a difrawder. Fe'u gwelir hefyd, yn ôl tystiolaeth gwyr cymwys i farnu, ym myd gwleidyddiaeth a llywodraeth leol yn ogystal. Ar wahân i ryw fath ar orffwylledd ysbeidiol tuag adeg Etholiad, llugoer a glas- twraidd yw diddordeb y lliaws mewn cwestiynau cyfoes. Un o'r cwynion sydd yn rhy gyffredin ers blynyddoedd bellach yw mai bychan mewn cymhariaeth ydyw nifer y rhai o dan 30 oed a fynycha ddosbarthiadau Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, a fu mewn cymaint o fri am flynyddoedd. Nid ym myd crefydd yn unig felly y mae dynion yn cysgu. Ymestyn y difaterwch dros randiroedd ehangach o lawer. ^Eithr pwyslais yr Eglwys Grist-