Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr Ymgyrch a'r Ymchwil. YN yr ysgrif o'r blaen diweddem trwy ddweud fod yn rhaid wynebu dwy neu dair o broblemau. Y gyntaf yw'r Adnoddau. Un o brif gymhellion yr Ymgyrch bresennol yw lleihad yr adnoddau. Lleihaodd poblogaeth Cymru gryn dipyn yn y blyn- yddoedd hyn: ni wnaed census wyddonol yn y chwarter canrif diwethaf, ond fel effaith enbyd y Dirwasgiad rhwng y ddau ryfel, bernir i'r genedl golli ychydig o dan hanner miliwn o'i phobl (y bumed ran) ac na chafodd yn ôl ond ychydig iawn. Gellir beio'r Dirwasgiad, felly, fel adwy erchyll rhwng dau Ryfel Mawr. Dichon hefyd yr esbonia ddifaterwch llethol dosbarth o'r bobl. Credwn i drallod yr amseroedd flino llawer, a pheri iddynt gasáu pob rhyw beirianwaith crefyddol. Ni ellir eu canmol oherwydd hynny, yr un pryd cyfyd rhai cwestiynau go ryfedd yn ein meddwl. Tybiodd llawer mai cymdeithas freiniol oedd yr Eglwys ac na ellid disgwyl un cymorth at fyw oddi wrthi hi. Anghofiodd yr Eglwys gomisiwn ei Harglwydd ac ni roddodd "dy agored" i drallod dynion. Erbyn hyn, am ba resymau bynnag, aeth yr Eglwys yn sefydliad ar gyrion cymdeithas, gadawyd hi megis lluesty mewn gardd," ymadawodd y torf- eydd oddi wrthi. Ymgrebachodd yn ddirfawr. Yn sicr, felly, dyna un rheswm dros gyhoeddi Ymgyrch." Taer a dygn yw yr her gan na all yr Eglwys mwy nag un sefydliad arall drefnu "Ymgyrch." yn iawn heb adnoddau parod, a'r gwir yw na fedd mohonynt — ar hyn o bryd. Rhaid wrth adnoddau, mewn dynion, arian, a chynlluniau da cyn trefnu cenhadaeth lwyddiannus. Nid digon yw i'r "pwyllgor o naw" daflu allan fras-awgrymiadau i'r eglwysi eu cario allan-er cystal a fo'r awgrymiadau. Edrychir am symudiad yr holl "Gorff" â rhyw gymaint o unoliaeth polisi yn y mater. A yw hyn yn ymarferol? Soniwyd mewn un Gymanfa am wneuthur y Sym-