Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Tua diwedd y ganrif ddiwethaf teimlai'r mwyafrif ymysg y gwyddonwyr nad oedd darganfyddiadau mawr neu ddarganfydd- iadau newydd i'w gwneud mwyach ym myd anianeg. O hyn allan byddai cynnydd a datblygiad nid yn gymaint mewn dar- ganfyddiadau newydd ond yn hytrach mewn mesuriadau mwy manwl ynglyn â'r ffenomenau a ddarganfuwyd eisoes. Yr oedd popeth yn gweithio mor foddhaol a'r deddfau ffisegol yn gweith- io mor fanwl, fel nad yw yn syndod i'r gwyddonwyr ddod i'r casgliad hwn. Yr oedd deddfau Newton ynglyn â symudiad- au'r planedau wedi ei profi yn gywir drwy weithio allan," er enghraifft, effaith symudiadau'r lleuad ar y llanw tros holl wyneb y ddaear, a choronwyd cywirdeb Deddf Disgyrchiad Newton pan ddarganfuwyd y blaned Neptune drwy gymryd i ystyriaeth ym- yriad y blaned honno ar symudiadau y blaned Uranus. Un can- lyniad pwysig a ddilynai ddamcaniaeth Newton oedd yr olwg newydd a gymerwyd ar natur, sef yr olwg benderfyniaethol. Bwrier ein bod yn gwybod ar unrhyw foment faintioli a chyf- eiriad cyflymder unrhyw gorff fisegol, yna gwyddom ei ystâd, fel y dywedir. Os medrwn hefyd gael gwybodaeth fanwl am y nerthoedd sydd yn dylanwadu ar y corff hwnnw oddi allan iddo, yna medrwn gyfrif ei ystâd ar y foment nesaf, ar nesaf wedyn, ac felly yn y blaen drwy'r dyfodol, h.y., medrwn roi hanes symudiadau'r corff drwy gyfrwng mathemateg. Mae'r dull hwn yn un grymus iawn, ac os gwyddom safle a chyflymder y planed- au, fel y mesurwyd hwy gan y seryddwyr, yna medrwn wrth ddefnyddio'r dull mathemategol hwn roi cyfrif o'u llwybrau ar unrhyw adeg yn y dyfodol, os gwyddom hefyd yr atyniad rhyng- ddynt, a rhydd Deddf Disgyrchiad Newton y wybodaeth yma i ni. Synnwyd ni, 'r wy'n sicr, gan y cywirdeb y gellir "cyfrifo" diffygion ar yr haul neu'r lleuad ymhell cyn iddynt ddigwydd. Yr oedd Newton, a'r anianeg glasurol fel y safai yr adeg hon, yn credu fod Deddf Achosiaeth yn ddiamodol, h.y., ni reolai siawns o gwbl yn y byd materol. Digwydd popeth o Yr Anianeg Newydd