Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gweinidogaeth Iachau a Phechod Gwreiddiol Yn wyneb y sylw a roddir yn y dyddiau hyn i. ddyletswydd yr Eglwys i noddi'r claf, dylid egluro beth yw'r elfen mewn afiech- yd na ellir ei symud ond trwy gyfrwng yr Eglwys, a phaham y mae ei chyfryngiaeth hi yn anhepgor er iechydwriaeth. Yr elfen hon yw'r ffaith mai pechod dyn sy'n dwyn arno ei holl aflwydd, a gellir yn deg briodoli pob afiechyd i bechod yn y pen draw. Collwyd y gred mewn Pechod Gwreiddiol wedi dadeni dysg yn y ióeg a'r τηeg Ganrif am fod yr Hiwmaniaeth newydd yn priodoli pob blaenoriaeth i ddyn, felly sut y gallai dyn fod.yn hanfodol lygredig? Gelwid am athrawiaeth newydd ar Natur Dyn, a chafwyd hi gan Hobbes, Locke, Hume a'r cyffelyb, gyda'u gosodiad fod bywyd baban yn agored o'i flaen fel llechen lân, iddo ysgrifennu arni yr hyn a fynnai. Ond gwyddys bellach fod un o ddeddfau sylfaenol gwyddon- iaeth, sef ail ddeddf Thermodynamig (Entropy) yn dangos tuedd naturiol popeth materol at anhrefn a dirywiad. Ac felly mewn crefydd: anghyfraith yw pechod, a'r gwrthwyneb i bechod' yw cadw deddf a chynnal trefn, sef ewyllys y Deddfwr. "Câr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl feddwl ac â'th holl nerth." Yr unig ffordd y gellir hyn ydyw trwy ymwadu â'r duedd at anhrefn a glynu wrth y Drefn a oedd gynt ac a fydd i dragwyddoldeb, hanfod yr hon yw Duw. Y mae'r Ysgrythur yn dangos pa beth yw dyn, a sut beth yw'r duedd ddifaol ynddo at y ffordd ddynol sy'n arwain bob amser i ddistryw; ac y mae hefyd yn olrhain pererindod y syrth- iedig trwy gyfnod y dial gwaedlyd tua gwlad yr addewid, sef safon y bersonoliaeth rydd a fyddai'n wir ddelw o lun ei Greawd- wr. Hanes taith creadur greddfol yw hyn at safon yr artist cread- igol. Y mae'n gwbl anhepgor i ni goleddu syniadau cywir ar natur dyn, gan na allwn hebddynt ddeall amcan bywyd na bamu'n gywir am gwestiynau ymarferol pwysig, megis cymhwyster y gwahan- ol sistemau o lywodraeth. Gall pob un fod yn fendithiol— cyfalafiaeth, democratiaeth, comiwnyddiaeth, os eu hamcan ydyw